Welcome to Swoosh! Please sign up or login

ZOMBIES!!!

Posted by CLICdan from Vale Of Glamorgan - Published on 29/10/2010 at 21:04
0 comments » - Tagged as Topical

  • zombie

English version

ZOMBIES!!!

Ia wir: zombies. Os oeddet ti ym Mhenwythnos Preswyl CLIC ym Mae Caerdydd ychydig fisoedd yn ôl yna rwyt ti’n sicr yn ymwybodol ohonynt. [Emily o Swoosh, da ni’n edrych arnat ti…]

Os nad wyt ti’n ffan o’r anfarwol, yna efallai byddai’n well cadw draw o Gaerdydd y dydd Sadwrn hwn gan fod haid o zombies yn disgyn ar Gymru.

Tra mae Noson Calan Gaeaf yn dechnegol ar ddydd Sul, mae nifer o bobl yn gorfod deffro’n fuan bore Llun felly penderfynwyd mai’r dydd Sadwrn yma, rhwng 6 – 8yh bydd yr Ymlusgiad Zombie Caerdydd yn digwydd!

Mae’r rheolau yn syml: gwisga fel zombie, gorchuddio dy hun mewn gwaed ffug, gwegian drwy’r dref yn griddfanu ‘Ymeeeennydd!’ yn dy ffordd anfarwol gorau, a chael hwyl dda.

Mae pob zombie yn gorfod cyfarfod yn y Sainsbury’s ar waelod Heol y Frenhines (ger y Capitol) am 6yh. Er os wyt ti’n hwyr fydd hi ddim yn rhy anodd i weld nhw (na dal i fyny gyda nhw os nad mai’r zombies sydyn yna o 28 Days Later ydynt!).

Ymennydd ddim yn gynwysedig.

Linciau

Digwyddiad Facebook

Sioe Gerdd Zombie CLIC: Rhan 1

Sioe gerdd Zombie CLIC: Rhan 2

Barddoniaeth: Timothy Monster

Mae hefyd Thema Zombie ar gyfer y wefan!

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.