Yr 8fed Blog NadoCLIC
English version
O ddydd Llun 13 i ddydd Gwener 24
Rhagfyr, bydd CLIC efo blog gwestai gwahanol bob dydd – Y 12 Blog
NadoCLIC - ffaith! Dyma’r wythfed…
Mae’n agos iawn i’r diwrnod mawr unwaith eto, am sydyn mae’r amser yn pasio!
Mae’n ymddangos fel dim ond ddoe pan oeddwn i’n stwffio’r cinio Nadolig enfawr 2009.
Dwi wedi bod yn ceisio cael fy hun i mewn i ysbryd y Nadolig dros y dyddiau diwethaf yma, addurniadau i fyny, stocio i fyny ar snacs, a moch mewn blanced fach ayb.
Mae’r gyfres Blogiau Nadolig CLIC yn bendant wedi helpu. Felly roeddwn yn meddwl byddwn yn gwneud cyfraniad hefyd!
Mae adeg hon o’r flwyddyn yn golygu llawer o bethau i mi: teulu, ffrindiau, atgofion, gorfwyta, chwerthin, caneuon yr ŵyl, coed Nadolig a’r teimlad cyffredinol o undod, Ond i mi mae hefyd yn dod a theimlad o dristwch i’r rhai sydd heb ddim o’r pethau hyn.
Gall Y Nadolig fod yn gyfnod mor gyffrous, yn enwedig i blant, y byrst o gyffro yn disgwyl am Siôn Corn i ddod i lawr y simdde neu trwy’r drws ffrynt.
Dwi’n cofio pan oeddwn i tua phump oed, yn meddwl ‘Dwi’n mynd i aros yn effro cyn hired â phosib a chael cipolwg arno yn ymgripio i mewn, yn rhoi fy anrhegion o dan y goeden. Tybed beth fydd o’n dod i mi eleni?’
‘Dwi wedi bod yn dda iawn flwyddyn yma. Dim glo i mi,’ meddyliais. Er nad lwyddais i erioed i aros yn effro wedi deg o’r gloch!
Dwi’n cofio fy Nadoligau mor dda a pa mor lwcus dwi wedi bod. Wyt ti byth yn meddwl am y rhai llai ffodus dros y Nadolig?
Gallwn sbwylio ein hunain cymaint yn ddigrifwch yr Ŵyl a bydd y cyfnod yn pasio heb ystyried fod yna rai pobl efallai heb deulu i dreulio’r Nadolig gyda nhw, heb do dros eu pennau, na chinio Nadolig mawr i gynhesu eu boliau, heb sôn am anrheg i agor, dim un hyd yn oed.
Yn ôl Wikipedia amcangyfrif fod tua 100 miliwn o bobl yn y byd sydd yn ddigartref. Mae dros 10,000 yn cysgu allan ar strydoedd Prydain (Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol 2005).
Nid yw hyn hyd yn oed yn cynnwys y 98,750 sydd yn byw mewn llety dros dro fel hosteli. Mae tymor y Nadolig, yn enwedig yr un yma, yn oer, chwerw, rhewllyd. Mae cysgu ar y strydoedd adeg hyn o’r flwyddyn yn galed iawn.
Mae gwaith gwych yn digwydd dros Brydain i helpu’r digartref, fel ceginau cael sydd yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr ac elusennau sydd yn cefnogi’r digartref, fel y sefydliad lleol Llamau.
Mae Llamau yn gweithio gyda phobl ifanc, yn cynnig cefnogaeth a chymorth gyda llety i’r rhai sydd wirioneddol ei angen, yn ogystal â rhywun i siarad gyda nhw.
Felly'r ystyriaeth ddiwethaf dwi am adael gyda thi ydy, wrth fwynhau’r rhannau gorau o’r Ŵyl a Dydd Nadolig, meddylia am eraill. Gallet helpu drwy roi rhodd i elusennau, gall hyd yn oed rhoi pethau fel bwyd a dodrefn. Gall hefyd helpu drwy wirfoddoli.
Am wybodaeth bellach am bobl yn byw yn ddigartref ym Mhrydain ymwela â www.homeless.org.uk neu gall ddarganfod mwy am Llamau drwy ymweld â’u gwefan www.llamau.org.uk.
Rho rywbeth yn ôl y Nadolig hwn.
Dominique ydy golygydd gwefan CLIC Bro Morgannwg, www.swoosh.me.uk/cym/, ac hefyd yn aelod o’r tîm Vibe. Gall ddod o hyd iddi yn Area 41 yn Y Bari.
DELWEDD: kindgott




