Yr 11fed Blog NadoCLIC
English version
O ddydd Llun 13 i ddydd Gwener 24
Rhagfyr, bydd CLIC efo blog gwestai gwahanol bob dydd – Y 12 Blog
NadoCLIC - ffaith! Dyma’r unarddegfed…
Y Clychau! Y Clychau!
Yn arwain at y Nadolig wyt ti wedi cerdded i mewn i siop ac wedi meddwl “Dim y diawl cân yma eto?” Yr ysgwyd di-baid o glychau car llusg. Gwichian uchel y côr plant gorfodol. Yr hynawsedd tymhorol gorfodol ohono i gyd (er y trac yn cael ei recordio yn fis Gorffennaf).
Wel meddylia am y staff. Maen nhw wedi bod yn gwrando ar ganeuon Nadolig am dros fis nawr. Noddy Holder yn sgrechian “It’s Christmas!” arnat ti drwy’r dydd, bob dydd. Byddet yn colli arni yn sicr.
Ond nid oes dim gall staff ei wneud am y peth. Tra mae cyfreithiau mewn lle pan ddaw at lefelau sŵn yn y gwaith (Rheol Sŵn yn y Gwaith Prydain 1989), nid oes deddfwriaeth am y math o gerddoriaeth sydd yn rhaid i staff wrando arno.
Nid yw hyn wedi rhwystro nhw neu gyd-weithwyr mewn gwledydd eraill rhag trio. Mae Undebau Llafur yng Ngweriniaeth Tsiec wedi bod yn aflwyddiannus yn mynnu fod siopau yn stopio chwarae carolau Nadolig yn ddi-baid – neu dalu iawndal am beri trawma emosiynol i staff gwerthu.
A gall gael dy orfodi i wrando ar gerddoriaeth ddiniwed ti ddim yn hoffi fod yn drallodus. Roedd holwyr America yn chwarae’r diwn thema o Barney The Purple Dinosaur i garcharwyr yn Abu-Ghraib fel math o artaith.
Dydy cerddoriaeth ddim ond yn gallu cael ei fwynhau gan y rhai sydd yn dymuno ei glywed, ym mhob amgylchiad arall, sŵn ydyw, cefndir neu beidio.
Felly'r Nadolig hwn, os wyt ti wedi cael llond bol o diwniau’r Nadolig, meddylia beth mae rhai staff yn ddioddef. Wedi’r cwbl, fe allet ti adael y siop… ni allent hwy.
Ychydig o Ganeuon Nadolig Gwahanol I Staff Dan Straen
- Your Nuts Roasting On An Open Fire
- All I Want For Christmas Is You (To Shut The Hell Up)
- (If Wish It Was A) Silent Night
- Mistletoe & Whine
- Santa Claus Is Coming To Town (And I’m Gonna Shoot Him)
- I Saw Mommy Shushing Santa Claus
- All I Want For Christmas Is My Two Ears Back
Sam ydy Is-Olygydd theSprout ac mae'n blogio am gerddoriaeth. Bydd Sam byth yn rhoi'r gorau i MS Paint.
Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Emosiynol a Meddyliol » Straen/Pryder ac Ymosodiadau o Banig
DELWEDD: Ceefax Of Life





