Welcome to Swoosh! Please sign up or login

Hoff Gwpanaid Masnach Deg

Posted by Fair Trade Wales from Cardiff - Published on 28/01/2010 at 06:27
0 comments » - Tagged as Culture, Education, Food & Drink

  • Photo 1

English version

Gofynnir i bobl ar draws Cymru bleidleisio am eu hoff gaffi sy’n cynnig diodydd poeth Masnach Deg.

Felly beth fydd hi, te yn Nhonteg, latte yn Llandudno neu cappuccino yng Nghaerfyrddin?

Cynhelir yr ymchwil am hoff Gwpanaid Masnach Deg Cymru tan ddydd Iau 25 Chwefror pan gyhoeddir yr enillydd yn ystod Pythefnos Masnach Deg. Thema’r bythefnos eleni yw te, yr ydym yn yfed 165 miliwn o gwpanau ohono bob dydd yn y DU.

Meddai Elizabeth Hudson o Ganolfan Gydweithredol Cymru, trefnydd y bleidlais: “Mae’r bleidlais yn ffordd wych o ddod â chwsmeriaid teyrngar, cefnogwyr Masnach Deg a’r caffis gwych sy’n gweithio mor galed ar draws Cymru at ei gilydd. Cawsom ymateb gwych y llynedd a gobeithio y bydd hyd yn oed mwy o gaffis yn ymgeisio eleni. Rydym yn annog busnesau sy’n dymuno troi at Fasnach Deg os nad ydynt wedi gwneud hynny eto i ddechrau arni yn awr ac ymgeisio.”

Meddai’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Jane Davidson: “Roeddwn yn falch iawn pan ddaeth Cymru yn Genedl Fasnach Deg gyntaf y Byd ym Mehefin 2008.  Drwy brynu te a choffi Masnach Deg, gallwn i gyd chwarae ein rhan i gefnogi rhai o’r ffermwyr a’r cynhyrchwyr tlotaf yn y byd i fasnachu eu ffordd allan o dlodi.

“Mae’r bleidlais ar-lein hon yn gyfle gwych i ddod â’r holl bobl sy’n frwd o blaid Masnach Deg at ei gilydd a gobeithiaf y bydd yn annog mwy o fusnesau yng Nghymru i droi at Fasnach Deg.”

I bleidleisio am dy hoff gaffi, bar, tafarn neu ganolfan gymunedol clicia yma.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.