Welcome to Swoosh! Please sign up or login

Ateb Eich Cwestiynau

Posted by Sprout Editor from Cardiff - Published on 08/09/2011 at 17:25
0 comments » - Tagged as Culture, Education, Health, People, Topical

  • leighton

English Version

Ar ddydd Mercher 14eg Medi bydd ychydig o Sprouters ac un o Young Newport yn cyfweld â Leighton Andrews, Gweinidog Addysg a Sgiliau Cynulliad Cymru.

Mae Leighton Andrews yn gyfrifol am bob math o bethau sydd yn cael effaith enfawr ar ein bywydau bob dydd. Os wyt ti yn yr ysgol, mae Leighton Andrews efo'r dylanwad i siapio popeth o dy wisg ysgol, bwyd, a thechnoleg TG i gymwysterau. Fo ydy'r person sydd yn gyfrifol am ymdrin ag ymddygiad disgyblion a bwlio ac yn sicrhau fod pobl ifanc o gefndiroedd gwahanol yn teimlo fel eu bod yn cael eu cynnwys ac yn cael cyfle cyfartal i gael addysg.

Os wyt ti mewn prifysgol, Leighton Andrews sydd efo rheolaeth o'r ffioedd sydd yn cael ei godi ar fyfyrwyr, cefnogaeth myfyriwr a bwrsariaethau.

Os wyt ti'n gweithio neu'n chwilio am waith, ia ti wedi dyfalu, Leighton Andrews sydd yn ymglymedig eto; mae'n gyfrifol am ddiwygio lles, cyngor cyflogaeth a gyrfaoedd ac ymestyn hawliau i bobl rhwng 11 a 25 oed.

Mae'n ddyn pwysig iawn a dyma dy gyfle di i gael atebion.

Gad dy gwestiwn i'r Gweinidog yn yr adran sylwadau isod a byddwn yn gwneud ein gorau glas i ofyn iddo.

Am restr lawn o gyfrifioldebau'r Gweinidog, gweler yma.

Gwybodaeth – Y Byd, Ewrop, y DU a Chymru - Gwleidyddiaeth Gwleidyddiaeth Ieuenctid

Erthyglau Perthnasol:

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.