AGM Y Ddraig Ffynci 2010
English version
AGM y Ddraig Ffynci 2010 – Roeddem yno!
Ni ydy Jessica Peters a Matthew Harry, dau gynrychiolydd Bro Morgannwg o Brif Gyngor Y Ddraig Ffynci. Y ddau aelod arall ydy Bradley Young a Rhodri George. Pam gyrhaeddom AGM Y Ddraig Ffynci ar 15fed Gorffennaf yn UWIC yng Nghaerdydd, bu i ni adael ein bagiau yn y car mewn disgwyliad am yr antur o’m Blaenau yn y tri diwrnod nesaf. Aethom i’r dderbynfa i bigo fyny ein bathodyn enw pwysig (gwnaethom luniau drostynt) a chael ein goriad, yna mentro i fyny’r coridor cyfarwydd i nôl ein hwdis, crysau-t, bagiau gwdi ac i gael tynnu lluniau newydd. Ar ôl mynd yn ôl i’r car a dadbacio ein bagiau i’n hystafelloedd, aethom am ginio i’r ffreutur newydd.
Llenwyd ein boliau ac yna mynd i’r prif groeso gan Jess nerfus iawn i gychwyn yr ychydig ddyddiau nesaf o’r AGM. Chwaraeom ychydig o gemau torri’r iâ a gwrando ar ychydig o gyflwyniadau am Hawliau’n Oes Ni a chyflwyniad gan Bencampwr Newid Hinsawdd. Hwyrach ymlaen yn y bore cawsom gyflwyniad am y Drefn Lywodraethol yng Nghymru ac yn edrych ar bortffolio'r gweinidogion. Torrwyd i fyny am swper , gyda gweithdai i ddilyn am y wefan Ddraig Ffynci a’r cyflwyniad i’r pwyllgor rheoli. Ar ôl hyn aethom i gyd yn ôl i’r theatr darlith i wylio ychydig o DVD’s oedd wedi cael eu gwneud gan fforymau ieuenctid dros Gymru gan gynnwys Rap Cyfranogi Bro Morgannwg ‘Choices / Dewisiadau’.
Ar ôl diwrnod mor brysur cawsom amser rhydd gyda gwersi Cymraeg yn cael ei gynnwys, twister anferth a gemau Wii! Gorffennodd yr adloniant nos am 10.30, ac yna ymlacion tan hanner nos. Felly dim yn rhy hwyr, gan fod ein gweithiwr fforwm eisiau i ni gael noson fuan fel bod gennym ddigon o egni at y diwrnod canlynol.
Bore Gwener: galwad deffro am 6.45yb! Roeddem wedi BLINO! Cawsom frecwast a gadael ar y bysiau am Bae Caerdydd i fynd i’r Senedd lle cawsom ein cyfarfod gan y Prif Weinidog Carwyn Jones. Cafodd y Prif Gyngor ei rannu i ddau weithdy am wahanol bethau yn effeithio pobl ifanc yng Nghymru, ac yna siarad amdano gyda’r gweinidogion am y sector yno (er bod hanner ohonynt ddim wedi troi i fyny!) Ar ôl y gweithdy gyda’r gweinidogion llusgodd Matthew Jess i Starbucks yn y glaw trwm, ac yna aethom i’r rhan go iawn o’r AGM (ac roedd Jess a Rhodri wedi bachu cadeiriau cyfforddus). Yn yr AGM swyddogol cawsom etholiad am y pwyllgor rheoli a chyllid y Ddraig Ffynci.
Yr aelodau pwyllgor newydd ydy: Isabella Hughes i Geredigion, Tom Childs o Bowys, Guto Davies o Sir Fôn, Mia Amore o RCT, Ant Aratoon o Sir Fflint, Mathew Bradley o Gastell-Nedd Port Talbot a Luke Carlmain o Gaerdydd (er bod pawb oedd wedi trio am y pwyllgor rheoli wedi gwneud yn dda iawn!). Felly roedd yn amser gadael a dal ein bws am UWIC, yna roedd hi’n amser i wisgo ein dillad ffansi yn barod am y swper gwobrwyon a pharti epig o’m Blaenau yn Stadiwm y Mileniwm! Derbyniodd y rhai oedd yn gadael Y Ddraig Ffynci eu gwobrwyon a’i Ffynci’s a dawnsiom drwy’r nos, roedd hi wedi hanner nos arnom yn cyrraedd yn ôl i’r campws.
Yn lwcus nid oedd rhaid codi mor fuan â hynny ar y dydd Sadwrn! Newidiom a cheisio tynnu’r golwg blinedig oddi ar ein hwynebau, cael brecwast ac yna dychwelyd i’r theatr darlithio i ddweud wrth bobl ble i fynd am y gwerthusiad i’r penwythnos preswyl. Gwerthuswyd y gweithdai gweinidogion, sut oedd y trefnwyr wedi gwneud, pwyntiau da a drwg o’r AGM, beth rydym eisiau ei gadw, beth i gael gwared ohono, ein barn ar yr AGM a chwaeth gwisgo Flan!
Yn olaf dywedom hwyl fawr hapus wrth bawb wedi penwythnos llawn antur a hwyl, cadw’r dagrau i ffwrdd a gwneud y siwrne adref. Am benwythnos!








