10 Awr
English Version
Mae yna 24 awr mewn dydd. Roeddet ti’n gwybod hynny’n barod mae’n debyg, ond cadwa hyn mewn golwg wrth i mi ddweud wrthyt ddarllen y frawddeg nesaf yma: y penwythnos hwn roedd rhai ohonom wedi treulio, cyfanswm o dros 20 awr ar fws. Dwy siwrne 10+ awr. Waeth i hynny fod yn ddiwrnod llawn.
Roedd o’r siwrne fws o waelod un De Cymru (Bro Morgannwg) i dop un Gogledd Cymru (Ynys Môn), ac roedd rhaid gyrru o gwmpas y wlad yn stopio amryw waith ar hyd y ffordd i bigo pobl i fyny, felly roeddem yn gwybod byddai’n siwrne hir. Ond oedd rhaid iddo gymryd mor hir â hynny? Wel, dwi’n aelod staff felly nid fy lle i ydy barnu hyn. Yn ffodus nid oedd rhaid i mi, gan fod ychydig o’r bobl ifanc wedi ysgrifennu cân hyfryd am yr holl brofiad, a fy mhleser i ydy dod a’r campwaith o gân yma i’r rhyngrwyd. (Agor y fideo yn YouTube a gallet hyd yn oed ei wylio mewn ansawdd HD sgleiniog – wwww!)
Felly, heb oedi rhagor, dyma gyflwyno… 10 AWR, gyda’u sengl gyntaf: (Golygydd - Mae’r geiriau wedi cael eu cyfieithu o’r Saesneg felly mae’r odl wreiddiol wedi cael ei cholli. I weld y gân yn y iaith gwreiddiol clicia a’r English Version ar frig y dudalen hon.)
Y Trip Gorau Erioed
Cael ein codi yng Ngorsaf Pontypridd
Yn pigo pobl i fyny o gwmpas y genedl
Dywedodd ein gyrrwr: “Dim problem,
Mae gen i TomTom; does dim rhaid brysio!”
Da ni eisiau cyrraedd Ynys Môn
Da ni eisiau gweld CLIC wrth y môr
Cychwyn ein siwrne yn mynd fyny’r mynydd
Stolio tair waith a dal i gyfri
Mae’r diawl siwrne yma yn gyrru ni’n wallgof
Ymddangos na ddaw byth i ben
Da ni eisiau mynd i Ynys Môn
Da ni eisiau cyfarfod CLIC wrth y môr
Cyrraedd Caergybi a gweld McDonalds
a McDonalds arall
a McDonalds arall
[aros, disgwyl… y rhu’n un ydy o!]
a McDonalds arall
Gyrru lawr lon
Ychydig o wasgu
Ddim yn gweld arwydd oedd yn dweud “Dim cerbydau llydan, plîs” [efallai fod Sam wedi addasu byrfyfyr yma]
Cyrhaeddom Ynys Môn
Cyfarfûm CLIC wrth y môr
Aethom yn syth am ein te
aethom am bi pi hiiiiiiiiiiiiiir




