Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

NadoCLIC #18

Postiwyd gan thepurpleninja o Bro Morgannwg - Cyhoeddwyd ar 18/12/2011 am 12:00
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Ysgrifennu Creadigol, Gwyl, Yn Gymraeg

  • CLICmas

English version

Croeso i ffenestr #18 o'r Calendr Adfent NadoCLIC! Os hoffet ffenestr dy hun i ddangos dy stwff Nadolig (neu dylai hynny fod yn stwffin!!!) a chael cyfle i ennill Nintendo 3DS yna e-bostia dan@cliconline.co.uk cyn gynted â phosib.

MAE'N NADOCLIC!!!  Felly gallaf ddychmygu fod bron i bawb wedi cyffroi am y Nadolig, ond beth am Siôn Corn a beth os oedd yn ddyn drwg…? Felly am 18fed dydd NadoCLIC dwi am ddweud stori wrthyt ti am fachgen bach o'r enw Jimmy sydd ddim ond yn 8 oed pan mae'n cyfarfod â Siôn Corn drwg…

Roedd plant bach wedi bod yn ciwio am oriau i gael cyfle i weld y dyn llon mewn coch.

"Mam, dwi wedi blino, a dwi'n llwgu. Gawn ni plîs fynd i gael bwyd?" gofynnodd Jimmy bach wrth ei fam ar ôl 1:35 munud o fod yn y llinell oedd ddim i'w weld yn symud.

"Edrycha yn y siop draw fan acw. Mae ganddynt Siôn Corn heb giw!" Awgrymodd Jimmy i'w fam ei fod eisiau gweld y Siôn Corn arall a mynd.

"Gwranda Jimmy, rydym bron yno," meddai mam Jimmy yn dyner. O fewn yr ugain munud nesaf roedd Jimmy yn eistedd ar lin Siôn Corn yn dweud wrtho beth oedd eisiau am y Nadolig.

"…a dwi eisiau ci bach a action man a dinosor a…" a heb adael i Jimmy orffen ei restr hir o bethau roedd eisiau am y Nadolig, neidiodd Siôn Corn i mewn.

"Sori fachgen bach ond dwi ddim yn gweithio rŵan. Tyrd yn ôl fory a byddaf yma o 11 tan 3" ac i ffwrdd â'r dyn llawen mewn coch.

"Paid phoeni cariad, a'i a ti i weld y Siôn Corn i lawr acw," meddai mam Jimmy wrth iddo ddechrau wylo. Rhedodd Jimmy yn ei flaen yn hapus a chyn i'r ail Siôn Corn gael gofyn ei enw, roedd yn eistedd ar ei lin yn dweud wrtho beth roedd eisiau am y Nadolig.

"…a dwi eisiau cu bach a action man a dinosor a…"

Edrychodd y Siôn Corn ar y bachgen gyda llygaid llydan. "DYDY DWI EISIAU DDIM YN CAEL!" sgrechiodd yn wyneb Jimmy.

"Efallai os bydda ti'n dangos mwy o barch i bobl a ddim yn dweud 'dwi eisiau' byddet ti'n cael beth oeddet ti eisiau! Dwi'n gobeithio mai lwmp o lo gei di yn dy hosan!"

Rhedodd Jimmy allan o'r siop at ei fam oedd yn edrych i mewn drwy'r ffenestr.

"Edrych fel dy fod di wedi cael hwyl. Beth ddywedodd Siôn Corn?"

Edrychodd Jimmy ar ei fam, ond dywedodd dim.

"Wel iawn ta… Adra amdani, mae hi bron yn 6 o'r gloch ac mae'n Nadolig yfory felly mae'n well mynd i'r gwely yn fuan".

Ar ôl cyrraedd adref, rhedodd Jimmy i fyny'r grisiau a chuddio ei hosan, gan obeithio byddai Siôn Corn ddim yn ei ddarganfod a'i adael gyda lwmp o lo. Roedd Jimmy yn ei chael yn anodd cysgu, rholiodd yn ei wely drwy'r nos ac edrych yn ei hosan drwy'r adeg, yn gneud yn siŵr nad oedd glo ynddo. Pan ddisgynnodd i gysgu o'r diwedd, breuddwydiodd am Siôn Corn yn edrych drwy'r  rhestr o enwau plant a dod at ei enw ef a meddwl, "O na, na, na, dylai'r bachgen yma ddim bod ar y rhestr yma!" a gwelodd ei enw yn diflannu o'r papur.

"Amser deffro, mae'n Nadolig!" meddai mam Jimmy wrth ddod i'w lofft. Aeth Jimmy at ei hosan i weld nad oedd dim yno ac roedd yr un peth yn wir am o dan y goeden! Cychwynnodd Jimmy deimlo'n benysgafn ac mae'n llewygu yn sydyn! Pan mae Jimmy yn dechrau dod at ei hun mae'n clywed cân gyfarwydd: "Christmas time, mistletoe and wine".

Mae'n edrych i fyny ac yn edrych ar sgrin y cyfrifiadur. Roedd yn ysgrifennu erthygl i CLIC am y Siôn Corn drwg iddo gyfarfod pan oedd yn fach.

"Tyrd Jimmy, mae'n Noswyl Nadolig! Mae Nain lawr grisiau yn disgwyl amdanat!"

"Ymm ia, sori, syrthiais i gysgu."

Ar ôl clicio'r botwm cyflwyno, aeth Jimmy i lawr y grisiau a mwynhau Noswyl Nadolig hapus gyda'i deulu.

Calendr Adfent NadoCLIC

Wyt ti'n ysgrifennydd, ffotograffydd, gwneuthurwr ffilm, darlunydd, DJ, cerddwr, animeiddiwr, blogiwr, bardd neu'n greadigol yn gyffredinol sydd efo rhywbeth i ddweud am y Nadolig? Wel, e-bostia sam@cliconline.org.uk i gael cyfle i gael ffenestr NadoCLIC dy hun nawr a chyfle i ennill Nintendo 3DS!

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.