Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Keith Towler Yn Taro Y Bari

Postiwyd gan SwooshMe o Bro Morgannwg - Cyhoeddwyd ar 14/12/2010 am 10:27
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Pobl, Materion Cyfoes, Gwirfoddoli

  • keith bari
  • keith bari2

English version

Ymweliad y Comisiynydd Plant Cymru i’r Fforwm Ieuenctid Y Gibbonsdown a Court.

Gwahoddodd y Fforwm Ieuenctid Gibbonsdown a Court Keith Towler (Comisiynydd Plant Cymru) i Gibbonsdown ar ddydd Mercher 1af Rhagfyr.

Roedd dau o aelodau’r Fforwm Ieuenctid wedi cyfarfod Keith yn wreiddiol ym Mrecwast Gwanwyn Jane Hutt yn gynharach yn y flwyddyn ac wedi dweud wrtho am y grŵp – yn gofyn a byddai’n gallu dod i un o’u cyfarfodydd.

Fe gytunodd a threuliodd awr ar ddydd Mercher yn siarad gyda phobl ifanc oedd wedi rhoi cyflwyniad at ei gilydd am amcanion y Fforwm Ieuenctid – yn amlygu prosiectau’r gorffennol, presennol a dyfodol.

Roedd y cyfarfod yn un ymlaciol iawn ac roedd aelodau’r fforwm yn gallu trafod gyda Keith sut maent yn teimlo am fyw yn eu cymuned, bywyd ysgol a phrosiectau maent yn edrych ymlaen tuag atynt.

Roedd hefyd yn gyfle i’r plant ofyn cwestiynau allweddol i’r Comisiynydd am y pwysigrwydd o’i swydd a sut roedd ei waith yn cysylltu i mewn i’r Fforwm Ieuenctid yn cael llais yn y gymuned.

Dywedodd Keith Towler: “Fe fwynheais y cyfarfod gyda’r Fforwm Ieuenctid yn fawr iawn – maent yn griw gwych o bobl ifanc ac maent yn gwneud gwahaniaeth anferth yn y gymuned.”

Mwy o wybodaeth Fforwm Ieuenctid Gibbonsdown a Court

Mae Fforwm Ieuenctid Gibbonsdown a Court ar gyfer pobl ifanc 11 i 18 oed. Mae’r fforwm yn rhoi cyfle i bobl ifanc fynegi eu syniadau, barn ac anghenion i’r rhai sydd yn gwneud penderfyniadau, staff y gymuned neu bobl ifanc eraill.

Mae’r Fforwm Ieuenctid yn rhoi llais pwysig i bobl ifanc fydd yn cael ei gysidro o ddifrif gan oedolion sydd yn gwneud penderfyniadau am weithgareddau a rhaglenni yn yr ardal Gibbonsdown a Court.

Swyddogaeth yr aelodau ydy i fynegi eu syniadau yn greadigol ac yn ystyriol ar sut i wella cymunedau, fel eu bod yn gallu bod yr amgylchedd gorau bosib i bobl ifanc fyw ynddynt.

Swyddogaeth oedolion yn y Fforwm Ieuenctid ydy i wrando’n ofalus ar beth mae pobl ifanc yn ei ddweud ac i gysidro sut mae’r syniadau a'r farn yn gallu cael eu huchafu a’i gynnwys mewn cynllunio cymunedol.

Felly…

Wyt ti’n berson ifanc yn byw yn Gibbonsdown neu Court yn Y Bari?

Oes gen ti farn neu syniad ti’n meddwl dylai eraill wybod?

Wyt ti eisiau bod yn rhan o weithgareddau cynllunio a phrosiectau?

Wedi ateb OES i unrhyw un o’r rhain? Yna mae’r Fforwm Ieuenctid i ti!!! Os hoffet fod yn rhan ohono cysyllta gyda ni neu tyrd draw. Mae’r Fforwm yn cyfarfod unwaith y mis yn Swyddfa Cymunedau’n Gyntaf, Aberaron Close, Y Bari.

Mae’r Fforwm Ieuenctid ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 18 oed sydd yn byw yn ward Gibbonsdown a Court yn Y Bari – cysyllta gyda Chymunedau’n Gyntaf ar 01446 732406 am fanylion pellach.

Mwy am Keith Towler

(O Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2009-2010)

Ers dod yn Gomisiynydd Plant Cymru ar 1 Mawrth 2008, mae Keith Towler wedi cwrdd ag o leiaf un grŵp o blant a phobl ifanc bob wythnos. Yn ystod ei ymweliadau ag amrywiol leoliadau ledled Cymru, mae ei gynulleidfa’n aml yn ei holi am ei swydd, ei dîm, ac weithiau’n gofyn cwestiynau mwy personol!

Dyma ddetholiad o’r cwestiynau mwyaf poblogaidd sy’n cael ei gofyn iddo’n aml:

Beth yw ‘comisiynydd plant’?

Yn 2001, penderfynodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod angen pencampwr plant ar Gymru. Fe wnaethon nhw benodi Comisiynydd Plant cyntaf y Deyrnas Unedig gyda help plant a phobl ifanc, a’r prif nod oedd diogelu a hyrwyddo hawliau a lles plant yng Nghymru.

Des i’n ail Gomisiynydd Plant y wlad yn 2008, ac rwy’n gweithio dros bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru sydd o dan 18 oed, neu 25 oed os ydyn nhw wedi bod yn derbyn gofal.

Rwy’n gweithio gyda’r tîm i wneud yn siŵr ein bod ni’n gwrando ar bob plentyn a pherson ifanc. Byddwn ni’n gofalu bod y bobl sy’n gwneud penderfyniadau am fywydau plant a phobl ifanc yn cymryd eu barn a’u syniadau o ddifri ac yn gweithredu.

Disgrifiwch ddiwrnod nodweddiadol

Y peth gorau am y swydd yma yw bod yna ddim ‘diwrnod nodweddiadol’. Un diwrnod gallwn i fod ar gefn ceffyl gyda phlant sy’n derbyn gofal, yn cael pob math o bethau wedi’u rhwbio mewn i’m siwt mewn cylch chwarae, ac yn ymweld â gardd Blue Peter, cyn cwrdd â Chabinet Llywodraeth y DU, cymeradwyo ein hymateb i ymgynghoriad ar ymchwiliad gan un o Bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chael cyfweliad gan newyddiadurwr am bwnc perthnasol. Yr amrywiaeth yma sy’n gwneud fy swydd yn un o’r rhai gorau yng Nghymru.

Gall ddarganfod mwy am y Comisiynydd Plant a hawliau pobl ifanc yng Nghymru wrth ymweld â: www.complantcymru.org.uk

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.