Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwobrau Ieuenctid Y Fro 2010

Postiwyd gan SwooshMe o Bro Morgannwg - Cyhoeddwyd ar 03/12/2010 am 15:01
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Celfyddyd, Diwylliant, Dawns, Addysg, Gwyl, Ffilmiau, Cerddoriaeth, Gweithgareddau Gwyliau Ysgol, Llwyfan, Chwaraeon a Hamdden, Technoleg, Gwirfoddoli

English version

Mae blwyddyn wedi gwibio heibio ac roedd hi’n amser, unwaith eto, i groesawu Gwobrau Ieuenctid 2010!

Roedd rhestr ffantastig yno, roedd yn llawn drama gyda rhai o dalent gorau'r Fro a derbyniodd rhai pobl ifanc lwcus wobrau ar y llwyfan anferth am eu cyflawniadau ym Mro Morgannwg yn ystod y flwyddyn.

Am nifer o flynyddoedd mae’r Gwobrau Ieuenctid wedi adnabod y gwaith arloesol ac ysbrydol sydd yn digwydd mewn Darpariaethau Ieuenctid dros y Fro a doedd gwobrau eleni ddim gwahanol. Roedd y noson i gyd yn digwydd i ddathlu pobl ifanc. Am noson!

Mae’r fideo yma wedi cael ei olygu i Swoosh yn garedig iawn gan Katie ar brofiad gwaith gyda Vibe Experience.

Gall ddarllen yr erthygl lawn gan Megan (Gohebydd Swoosh) a gweld ychydig o’r lluniau swyddogol drwy glicio: GWOBRAU IEUENCTID 2010.

Dyma restr o’r enillwyr ar y noson…

Addysg - Canolfan Ieuenctid Llanilltud Fawr

Celfyddydau Perfformio - Canolfan Ieuenctid Y Bari

Dinasyddiaeth/Cyfranogi - Gwirfoddolwyr Bro Wledig (Tregolwyn. Y Wig a Sain Ffraid)
- Celtic Way/Room 102

Celfyddydau Gweledol - Canolfan Ieuenctid Llanilltud Fawr

Byd-eang / Rhyngwladol - Rhaglen Ddawns Motion Control (Vibe Experience)

Amgylcheddol - Canolfan Ieuenctid Llanilltud Fawr

Chwaraeon - Canolfan Ieuenctid Llanilltud Fawr

Cyflawnwr Ifanc 2010 - Conner Rollings

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50