Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwadiad a Chelwyddon? Tywysoges Pop yn erbyn Rapiwr Drwg

Postiwyd gan sarah x o Bro Morgannwg - Cyhoeddwyd ar 05/08/2010 am 09:50
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Cerddoriaeth, Pobl, Llwyfan

  • mariah

English version

Pam ti’n meddwl am Mariah Carey ti’n meddwl am ferch fenywaidd i’r eithaf, llais cryf, cysylltiadau cryf ac yr angen am lwyddiant. Mae Carey wedi bod yn eilun mawr i nifer o bobl wrywaidd a benywaidd ers iddo ddod i’r amlwg. Dangosodd nad oedd hi yn wyneb prydferth yn unig drwy aros o gwmpas am nifer o flynyddoedd ac yn cynhyrchu llwyddiant ar ôl lwyddiant yn ei gwneud yn un o’r marched mwyaf llwyddiannus erioed.

Ac yna mae gen ti Eminem – rapiwr caled drwg. Mae Eminem wedi pechu nifer o selebs drwy wneud sylwadau personol a beirniadol amdanynt, yn eu portreadu yn negyddol a byth ofn rapio am beth bynnag sy’n ei boeni. Oherwydd hyn, mae wedi cael mwy o frwydrau na Mike Tyson ac wedi creu gelynion parhaol. Marshall (fel mae hefyd yn cael ei adnabod) dy hogyn eithaf o ochr arall y traciau. Er hyn, mae’r rapiwr slim shady wedi llwyddo creu nifer o ffans benywaidd, sydd wrth eu boddau gyda’i ffordd o fyw hogyn drwg a chorf ffit. Ac yn ôl Marshall, un ffan fenywaidd oedd yn ymddangos i fod eisiau darn o ffordd o fyw Shady oedd neb llai na’r seren bop ei hun, Mariah Carey.

Iawn. Doeddwn i ddim yn gallu dychmygu’r peth chwaith. Carey a Marshall? Annhebyg! Beth oedd gan y ddau yma mewn cyffredin? Mae Carey yn enwog am ei gwisgoedd bach (a’i llais ddim mor fach) ei darlun benywaidd, ei pherffeithrwydd! Ac yna mae Marshall gyda’i dracsiwt lac, cap pêl fas a chaneuon sydd yn cynnwys o leiaf un gair rheg. Mae’n rhaid bod cyferbyniad yn atynnu a dywedai Marshall fod Mariah gaeth i’w swyn hogyn drwg. Nid hi mo’r unig un Shady! Mae hyd yn oed wedi sôn am Mariah yn ei sengl Superman “what you tryin’ to be, my new wife, what you Mariah…”

Ond dydy Carey ddim yn chwarae'r un gêm a Marshall. Yn hytrach na chael bod wrth ei bodd fod y rapiwr poetha America yn fwy neu lai yn ei galw hi’n wraig iddo gwnaeth hi’r peth mae’r rhan fwyaf o bobl yn euog ohono pam rydym wedi crinjo am gyn partner. Gwadu popeth! Mae Carey wedi dweud fod unrhyw berthynas y cawsai gyda Marshall yn un proffesiynol ac ynghlwm â cherddoriaeth yn unig. Wrth gael ei chwestiynu drosodd a throsodd am y “perthynas di broffesiynol” tybid y gallai fod wedi bodoli rhyngddi hi a Marshall dywedai fod Marshall yn “byw bywyd ffantasi”.

Wedi’i frifo a’i wrthod am fod ei gyn cariad yn gwadu cael unrhyw gysylltiad ag ef penderfynodd Marshall fynd a phethau ymhellach, yn peledu’r wasg gyda dyfyniadau fel “Do, roedd Mariah a finnau mewn perthynas am chwech neu saith mis da… Doeddwn i ddim yn licio’r pethau roedd hi’n licio. Roedd ein personoliaethau yn gwrthdaro. Mae hi’n difa, a dwi ychydig mwy cyffredin dwi’n meddwl.” Geiriau llym yna. Roedd Marshall yn disgwyl am ymateb gan Mariah, ac fe gafodd un. Ond nid yr ymateb roedd yn ei ddisgwyl.

Tra roedd ei ‘chyn partner’ yn dweud hyn i gyd, roedd Carey yn amlwg yn benderfyniadol o wadu’r holl beth. Gwrthododd adnabod fod unrhyw berthynas gôr cyfeillgar gyda Marshall wedi digwydd. Gyda chymorth ei sengl “Obsessed” roedd Carey, yn glyfar iawn, yn gallu darlunio’r perthynas stormus mae hi efo/wedi cael efo Marshall. Mae’r fideo yn dilyn stelciwr llwyrddibynnol sydd yn gwneud honiadau celwyddog ei fod yn cael perthynas rywiol gyda Carey, tri dyfaliad pwy mae hwn i fod amdano! Ac i osgoi unrhyw gymysgedd pellach roedd y ffan lwyrddibynnol hwn yn debyg iawn i’r real slim shady, sôn am wrthodiad!

I Marshall, roedd hyn yn un sarhad gormod a drwy gerddoriaeth tarodd yn ôl yn erbyn y dywysoges pop yn ei gan – “The Warning” – “I’m obsessed now, oh gee! Is that supposed to be me in the video with the goatee, well Mariah…” Honnodd hefyd fod ganddo dystiolaeth mewn ffurf lluniau ohono a Mariah fel cwpl – “Mariah did it ever occur to you that I still have pictures?”

Wedi rhyddhad y gan hwn, aeth pethau’n ddistaw o ochr Carey. Maen nhw’n dweud fod cyferbyniad yn atynnu ac mae’n hollol amlwg fod Carey a Marshall yn gyferbyniad! Paid â cham-ddallt dwi yn ffan o Mariah a’i baledau. Yn glir nid yw Marshall yn fachgen pur dda hoffet fynd adref gyda thi i gyfarfod dy rieni, ond dan yr amgylchiadau yma mae’n rhaid dweud fy mod i yn nhîm Marshall!

Iawn, dydy ei iaith ddim yn mynd i gael o drwy ysgol gorffennu unrhyw amser yn y dyfodol a gall ei eiriau “difyrrus” yn ei ganeuon ymddangos yn anfoesgar i rai pobl, ond mewn gwirionedd Mariah oes yna unrhyw bwrpas i wadu’r perthynas yn gyfan gwbl? Digon teg, rwyt ti’n dywysoges pop ddiniwed sydd yn canu am ymrwymiad a chariad, a gall hwn ymddangos fel y perthnasoedd fwyaf annhebyg o’r flwyddyn i rai, ond i fi mae’n achos clasurol o fod wrth dy fodd gyda hogiau drwg!

Marshall, dwi’n sicr fy mod i yn siarad ar ran nifer o enethod pam rwyf yn dweud os ydy’r real slim shady eisiau ffurfio perthynas efo fi, byddwn yn hapus iawn i gyfaddef hynny!

DELWEDD: Mybuzzworthy

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.