Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cyfle I Addysgu Cerddoriaeth

Postiwyd gan cheeky.charly96 o Bro Morgannwg - Cyhoeddwyd ar 14/03/2011 am 10:53
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Cerddoriaeth, Gwaith a Hyfforddiant

  • CGC

English version

Eisiau gwybod mwy am fod yn Diwtor Cerdd Gymunedol?

Mae Cerdd Gymunedol Cymru (CGC) yn falch o gyhoeddi bod posib gwneud nawr.

Maent yn cynnig cyfle i ti fynychu eu Cwrs Hyfforddi Tiwtor, sydd ar gael i unrhyw un yn De Cymru.

Bydd y cwrs yn digwydd yng Nghaerdydd pob wythnos yn rhedeg bob dydd Iau o 5 Mai i 28 Gorffennaf.

Byddet yn derbyn diwrnod llawn o hyfforddiant pob wythnos, a bydd sesiynau dysgu a lleoliadau.

Mae’r cwrs yn ymdrin ag amrediad eang o theori ac ymarferiad mewn cerddoriaeth gymunedol, gyda gweithdai ymarferol yn cael eu harwain gan hyfforddwyr cerddoriaeth gymunedol broffesiynol. Byddet yn cael dy ddysgu am ystod eang o bynciau gan gynnwys sgiliau gwaith grŵp, pendantrwydd, cynllunio ac addasu deunydd gweithdai, hwyluso dysgu a thyfiant cleiant.

Byddet yn gweithio gyda chanlyniadau medal a sgiliau trosglwyddadwy, ymwybyddiaeth o amddiffyn plant, yswiriant, asesu sgiliau sylfaenol, iechyd a diogelwch, cyfleoedd cyfartal, amrywiaeth ac ymarferiad gorau.

Mae’r cwrs yn ymarferiad gwerthfawr am y swydd ei hun gan fod yr hyfforddiant wedi’i ddylunio gyda strwythur, dull ac ethos, sydd yn adlewyrchu swydd tiwtor cerddoriaeth gymunedol. Mae pob cwrs Cerdd Gymunedol Cymru yn achrededig gan Agored Cymru.

Mae’r hyfforddiant wedi’i selio yn rhannol ar hunan asesiad wrth i rai dan hyfforddiant asesu cryfderau a gwendidau eu hunain. Bydd pob  un dan hyfforddiant yn ennill gwerthfawrogiad a deallusrwydd o sgiliau fel dynameg grŵp a phrosesau grŵp.

Mae tiwtoriaid CGC yn gerddwyr medrus sydd, drwy’r rhaglen hyfforddiant, wedi trawsnewid eu sgiliau ar gyfer potensial gwaith credadwy a gwir. Mae tiwtoriaid yn amrywio mewn oedran a chefndiroedd, ond yr un peth sydd ganddynt yn gyffredin ydy eu bod ymroddedig i ddefnyddio cerddoriaeth fel ffordd o gysylltu pobl i wneud gwir wahaniaeth.

Mae CGC wedi cael cyfradd llwyddiant enfawr yn yr hyfforddiant, gyda dros 500 o bobl yn cymryd rhan yn y cyrsiau. Nid pobl yng Nghymru sydd wedi cael budd o’r cwrs hefyd, ond mae’n cael parch rhyngwladol hefyd, gyda chyrsiau yn cael eu trosglwyddo i bobl yn Latvia, Yr Almaen, Cuba, Israel, Canada a Bolivia dros y deg mlynedd diwethaf.

Cost y cwrs ydy £80, neu £50 consesiwn. Dyddiad cau ceisiadau ydy dydd Llun 28 Mawrth. Am wybodaeth bellach a phecyn cais cysyllta â Cherdd Gymunedol Cymru trwy e-bost: admin@communitymusicwales.org.uk neu galwa 029 2083 8060.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.