Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Hawliau Defnyddwyr

Mae angen ichi fod yn ymwybodol fod yna ddeddfau i’ch diogelu fel cwsmer neu ddefnyddiwr. Maen nhw’n berthnasol pan fyddwch chi’n mynd i siopa ar y stryd fawr ac ‘o bell’ h.y. dros y ffôn, drwy’r post neu drwy’r rhyngrwyd. Maen nhw’n berthnasol i nwyddau a gwasanaethau. Dyma rai enghreifftiau o hawliau defnyddwyr:

  • Gallwch chi gael eich arian yn ôl, neu mae’n rhaid trwsio neu roi cynnyrch newydd ichi os oes nam arno, neu os nad yw’n gwneud yr hyn mae i fod i’w wneud. Fodd bynnag, nid oes gennych chi hawl i unrhyw beth os byddwch chi’n newid eich meddwl, oni bai eich bod yn prynu ‘o bell’.
  • Mae gennych chi hawl i gael eich holl arian yn ôl os byddwch chi’n archebu nwyddau ‘o bell’ a chithau ddim yn eu derbyn cyn pen 30 diwrnod neu erbyn dyddiad arall rydych chi wedi cytuno arno.
  • Efallai y bydd gennych chi hawl i gael eich arian yn ôl neu i gael iawndal os ydych chi wedi llofnodi contract gyda rhywun i wneud gwaith ar eich rhan a’r gwaith hwnnw yn methu â bodloni’r safon. Dylech chi geisio cyngor cyn rhoi unrhyw weithdrefnau ar waith i hawlio.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.