Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Cosbau a Dedfrydau » Cofnodion Troseddol

Cofnodion Troseddol Pan fydd y llys yn eich cael yn euog, fe fyddwch chi'n cael dedfryd ac fe fydd gennych chi gofnod troseddol. Ni fydd pob cofnod yn aros gyda chi am byth. Dan Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974, os ydych chi wedi torri’r gyfraith yn y gorffennol, yn achos rhai troseddau os bydd cyfnod penodol wedi dod i ben, fe allai’ch cofnod troseddol fod wedi ‘darfod’. I gael mwy o fanylion am y cyfnod y mae’n rhaid ichi aros i’ch cofnod troseddol fod wedi darfod:

Gallwch ffonio Llinell Gymorth Resettlement Plus 020 7840 6464.

Gallwch chi hefyd gael manylion ar:

www.youthinformation.com
Ewch i Justice and Equality ac yna i Crime ac yna i Criminal Records.

Os bydd y llys yn eich cael chi’n euog o Drosedd Dreisgar yn erbyn rhywun ifanc arall sydd dan 18 oed, fe fydd hyn yn aros ar eich cofnod yn barhaol. Bydd troseddau treisgar yn cael eu trin yn wahanol i droseddau eraill ac, yn wahanol i droseddau eraill y mae modd eu dileu oddi ar eich cofnod ar ôl cyfnod penodol, fe fydd y troseddau ‘Statws Atodlen Un’ yma yn aros gyda chi gydol eich OES.

Trosedd rhywun dan 18 oed yn erbyn rhywun arall dan 18 oed yw Trosedd Statws Atodlen Un. Mae Troseddau Atodlen Un yn cynnwys ymosodiadau rhywiol ar blant, trais rhywiol, amrywiol ffurfiau ar esgeuluso neu gam-drin, gan gynnwys llofruddiaeth a dynladdiad. Mae hefyd yn cynnwys troseddau cyffredin fel ymosodiad cyffredin ac ymosodiad sy’n achosi anafiad corfforol i rywun iau na 18 oed. Mae’n werth cadw mewn cof y gallai ymladd ar faes chwarae’r ysgol neu yn eich stryd arwain at eich cael yn euog o ymosodiad cyffredin – sef Trosedd Atodlen Un.

Os ydych chi wedi’ch cael yn euog o drosedd Statws Atodlen Un yna mae’n debygol y bydd cyfyngiad ar eich opsiynau o ran gyrfa, dewisiadau bywyd a gwaith. Os ydych chi’n gobeithio gweithio gyda phlant fe fydd yr heddlu yn gwirio’ch cofnod yn awtomatig.

Os byddwch chi’n gwneud cais i fynd i’r coleg neu ar gwrs hyfforddiant, neu am swydd neu gerdyn credyd, i deithio i rai gwledydd a llawer o weithgareddau a dogfennau eraill fe fyddan nhw fel arfer yn gofyn ichi a oes gennych chi gofnod troseddol. Yn achos rhai swyddi fel dysgu, gwaith ieuenctid, nyrsio, gwaith gofal, nyrsio meithrin, hyfforddi chwaraeon a llawer mwy o swyddi lle byddwch chi'n gweithio gyda phobl, mae'n ofynnol cael gwiriad y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) cyn y gallwch chi gael y swydd.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.