Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Teulu a Pherthnasau » Bod yn rhan o Deulu » Mamau, Tadau a Gofalwyr

  • Mae mamau, tadau a gofalwyr yn rhan fawr o’n bywydau, ond mae’n bosib na fyddwch chi bob amser yn cytuno gant y cant â nhw.
  • Mae ffraeo â’ch rhieni neu’ch gofalwyr o bryd i’w gilydd wrth ichi dyfu fyny yn gwbl normal, boed y ffrae am gariadon, am fynd allan, am arian neu am yr ysgol.
  • Mae’n bosib fod eu syniadau nhw yn wahanol i’ch rhai chi, a gall ffraeon godi os oes gennych chi farn gref ynglŷn â rhywbeth a barn eich rhieni neu’ch gofalwyr yn hollol i’r gwrthwyneb i hyn. Pan fyddwch chi’n gweld bod ffrae ar fin codi, ceisiwch weld pethau o’u safbwynt nhw, a pheidiwch â gwylltio.
  • Mae yna ffyrdd eraill o ddatrys problemau heb ffraeo. Mae’n debygol y bydd trafod y peth yn dawel ac yn rhesymegol yn dod â mwy o lwyddiant.
  • Cofiwch fod eich rhieni neu’ch gofalwyr wedi bod yr un oed â chi ar un adeg - maen nhw’n deall sut beth yw hi i fod yr oed honno. Ceisiwch ddeall eu barn o’u safbwynt nhw.
  • Cyfathrebu yw’r allwedd i berthynas hapus. Gall gadael i’ch teimladau gorddi y tu mewn ichi eich gadael yn rhwystredig ac yn anhapus, a gall hyn arwain at fwy o ffraeo.
  • Mae siarad â’ch rheini neu’ch gofalwyr yn bwysig dros ben. Os oes rhywbeth yn eich poeni, byddwch yn onest, a siaradwch â nhw yn dawel a than reolaeth. Cewch eich synnu faint y bydd hyn yn helpu. Ceisiwch ddod o hyd i adeg pan fydd eich rhieni wedi ymlacio cyn trafod y pethau sy’n eich pryderu.
  • Gall ymddangos bod rhai rhieni neu ofalwyr yn rhy amddiffynnol, yn rhy uchelgeisiol neu fel nad ydyn nhw’n deall eich safbwynt chi. Os ydych chi’n credu bod eich rhiant neu’ch gofalwr yn annheg, yna trafodwch y materion sy’n effeithio arnoch chi a cheisiwch feddwl am ffordd o gyfaddawdu. Ni fydd gweiddi yn cyflawni dim.  

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.