Gwybodaeth » Teulu a Pherthnasau » Bod yn rhan o Deulu » Brodyr a Chwiorydd
- Bydd llawer o frodyr a chwiorydd yn methu â chyd-dynnu â’i gilydd wrth dyfu i fyny, ac mae ffraeo yn rhan naturiol o’ch perthynas â nhw
- Gall fod yn anodd gorfod rhannu pethau â brawd neu chwaer, neu ddygymod â’r ffaith eu bod nhw’n amharu ar eich preifatrwydd, ond mae yna ffyrdd o wella’r sefyllfa
- Meddyliwch pam eich bod chi’n ffraeo â’ch gilydd (a byddwch yn onest) – ai oherwydd eich bod chi am gael lle i chi’ch hun? Ydych chi’n flin nad ydych chi’n cael yr un faint o sylw â nhw? Ydych chi’n genfigennus?
- Os mai ynoch chi mae’r broblem, yna mae’n rhaid ichi eich hun ei datrys hi. Fydd beio’ch brawd neu’ch chwaer ddim yn helpu unrhyw un
- Pan fyddwch chi’n teimlo’n ddigyffro, rhowch gynnig ar drafod eich teimladau â’ch brawd neu’ch chwaer. Gwahoddwch nhw i ddweud wrthych chi beth yw eu teimladau nhw hefyd. Peidiwch â gweiddi ar eich gilydd, ond ceisiwch gynnal sgwrs dan reolaeth, gan fod yn aeddfed eich ymddygiad os bydd rhywun yn eich beirniadu
- Gall dysgu beth sy’n ysgogi ffraeon hefyd helpu i’w hosgoi yn llwyr, felly trafodwch hyn â’ch gilydd, a meddyliwch am ffyrdd o’u hosgoi
- Y tro nesaf y byddwch chi’n teimlo’n ddig ac yn teimlo bod ffrae ar godi, anadlwch yn ddwfn a pheidiwch â gwylltio. Gadewch yr ystafell, ymlaciwch ac ewch i’r afael â’r mater yn dawel pan fyddwch chi’n teimlo’n barod i wneud hynny
- Mae gan frodyr a chwiorydd wahanol rolau yn y teulu. Er enghraifft, mae’n bosib y bydd yr hynaf yn cael mwy o gyfrifoldeb ac y bydd gofyn iddo osod esiampl i frodyr neu chwiorydd iau. Mae’n bosib y bydd y plentyn ieuengaf yn cael mwy o ryddid, ond gall deimlo ar adegau fod pobl yn ei oramddiffyn ac yn ei drin fel babi. Sut bynnag y byddwch chi’n teimlo, siaradwch â’ch rhieni
- Os ydych chi’n teimlo bod eich brawd neu’ch chwaer yn cael mwy o sylw na chi, mae hyn yn rhywbeth y mae angen ichi drafod â’ch rhieni. Dywedwch wrthyn nhw sut rydych chi’n teimlo a pham, a chwiliwch am ffyrdd o wella’r sefyllfa, er enghraifft trefnu gwibdaith gyda’ch rhieni neu’ch gofalwyr
- Os ydych chi’n teimlo bod eich brawd neu’ch chwaer yn well na chi am wneud rhywbeth, cofiwch beth yw’ch cryfderau chi. Er enghraifft, mae’n bosib eu bod nhw’n cael gwell hwyl ar chwaraeon na chi, ond efallai eich bod chithau’n ennill gwell marciau yn yr ysgol. Does yna neb sy’n berffaith, ac mae pawb yn wahanol, felly peidiwch â’ch cymharu’ch hun â’ch brawd neu’ch chwaer. Nid nhw ydych chi
- Does dim rhaid ichi fod yn ffrindiau gorau â’ch brawd neu’ch chwaer, ond mae’n bwysig dangos parch y naill tuag at y llall. Os byddwch chi’n dangos parch tuag at eich brodyr a’ch chwiorydd, byddan nhw’n dysgu sut i ddangos yr un parch tuag atoch chi
- Yn aml fe fydd brodyr a chwiorydd a oedd yn ffraeo pan oedden nhw’n iau yn tyfu fyny i fod yn agos iawn. Cofiwch y bydd eich brawd neu’ch chwaer yno o hyd ichi, felly siaradwch â nhw, a byddwch yn gefn i’ch gilydd


