Gwybodaeth » Tai » Prynu Cartref Newydd » Cael Morgais
- Unwaith i chi wneud cynnig ar eiddo, bydd rhaid i chi gael morgais cyn gynted â phosib fel nad yw rhywun arall yn cael yr eiddo hwnnw
- Mae morgais yn fath o fenthyciad a ddefnyddir i dalu am gartref
- Mae morgais yn wahanol i fenthyciadau eraill oherwydd ei fod am fwy o arian, fe fenthycir am gyfnod amser hwy fel arfer (cyfnod y morgais - 25 blynedd fel rheol) a chaiff ei warantu yn erbyn eich eiddo. Golyga hyn y gall benthyciwr morgais gymryd eich cartref yn ôl neu'i adfeddiannu os nad ydych yn gwneud y taliadau morgais misol, a'i werthu er mwyn adennill yr arian sydd arnoch iddynt
- Mae banciau, cymdeithasau adeiladu, cwmnïau yswiriant, broceriaid morgais a benthycwyr uniongyrchol i gyd yn gwmnïau sy'n cynnig morgeisi
Mathau o forgeisi
- Mae dau brif fath o forgeisi - morgeisi ad-dalu a morgeisi llog yn unig
- Golyga morgais ad-dalu fod y swm y talwch i'r benthyciwr bob mis yn ad-dalu rhan o'r swm y gwnaethoch fenthyg (y ddyled 'gyfalaf'), yn ogystal â rhan o'r llog a godir ar y benthyciad. Felly rydych yn talu, fesul tipyn, popeth sydd arnoch i'r benthyciwr, a byddwch wedi ad-dalu swm y morgais i gyd erbyn diwedd cyfnod y morgais. Mae'n debyg y bydd morgais ad-dalu'n addas i chi os ydych am gael y trefniad morgais symlaf gyda'r risg leiaf
- Gyda morgais llog yn unig, rydych yn ad-dalu'r llog ar y benthyciad yn unig bob mis. Nid ydych yn talu'r ddyled gyfalaf wrth i chi fynd ymlaen, felly mae swm y morgais yn aros yr un peth hyd ddiwedd cyfnod y morgais. Mae hyn yn golygu bod gennych gyfrifoldeb i ad-dalu'r ddyled gyfalaf ar ddiwedd y cyfnod. Mae nifer o opsiynau ar gyfer gwneud hwn, un yw cynilo rhyw faint o arian fel buddsoddiad bob mis, megis Cyfrif Cynilo Unigol (ISA) neu gynhysgaeth, y gallwch ei ddefnyddio ar ddiwedd cyfnod y morgais i ad-dalu'r morgais. Mae perygl, fodd bynnag, na fydd y buddsoddiad yn tyfu digon i ad-dalu'r benthyciad i gyd, felly rydych yn llai sicr nag y byddwch gyda morgais ad-dalu
- Mae gan forgais gwaddol ddwy ran - benthyciad oddi wrth fenthyciwr a pholisi gwaddol gyda chwmni yswiriant, sy'n fath o gynllun cynilion bywyd. Y llog yn unig fyddwch yn ei ad-dalu i'r benthyciwr morgais bob mis felly dydych chi ddim yn ad-dalu'r benthyciad. Serch hynny, ad-delir swm o'r polisi gwaddol i'r cwmni yswiriant bob mis ac ar ddiwedd y morgais bydd y polisi hwn yn rhoi'r swm sydd ei angen arnoch i ad-dalu'r morgais. Gyda'r math hwn o forgais, mae yna berygl na fydd swm y polisi gwaddol yn ddigon i ad-dalu'r holl forgais ac fe ddylech geisio cyngor ariannol yn yr achos hwn
- Mae morgais pensiwn ar gyfer pobl hunangyflogedig fel arfer. Bob mis gwnewch daliad llog-yn-unig ar y benthyciad a chyfraniad at gynllun pensiwn. Pan fyddwch yn ymddeol, bydd swm mawr gennych i ad-dalu'r benthyciad, a phensiwn hefyd
Gyda morgais ISA rydych yn talu'r llog ar y benthyciad yn unig ac yn cyfrannu at ISA (Cyfrif Cynilo Unigol) (Gweler MATHAU O GYFRIF). Dylai swm yr ISA ad-dalu'r benthyciad - Morgais Islamaidd. Mae hwn yn forgais lle nad yw unrhyw un o'r ad-daliadau misol yn cynnwys llog. Yn hytrach na hwn, mae'r benthyciwr yn codi tâl arnoch am fenthyg y cyfalaf i brynu eich ty ac fe all adennill yr arian mewn sawl ffordd wahanol, trwy wneud i chi dalu rhent, er enghraifft
- Mae nifer fawr o fathau gwahanol o forgeisi ar gael o fewn y categorïau hyn hefyd, felly ymchwiliwch eich opsiynau i gyd i ddod o hyd i'r un mwyaf perthnasol i chi. Er enghraifft, mae rhai banciau'n cynnig morgeisi arbennig i bobl sy'n prynu eu cartref cyntaf
- Yn aml mae darparwyr morgeisi yn cynnig bargeinion arbennig i annog pobl i gael morgais gyda nhw. Fel arfer mae'r rhain yn cynnwys cyfraddau isel rhagarweiniol byrdymor ar eich morgais. Gallant gynnig cyfradd ostyngol, cyfradd sefydlog, neu gyfradd sy wedi'i chapio am nifer penodol o fisoedd neu flynyddoedd, a elwir yn gyfnod 'rhwymo'
- Bydd darparwyr morgeisi am i chi aros gyda nhw am gofnod mor hir â phosib ac, oherwydd hyn, gall nifer o forgeisi gynnwys 'ffi adbryniant'. Golyga hyn y bydd rhaid i chi dalu ffi pe fyddech am ad-dalu'r morgais yn gynnar, neu ei symud i ddarparwr morgeisi arall
Mae sawl cyfradd llog gwahanol ar gyfer morgeisi, sef:
- Cyfradd amrywiol safonol: Mae'r benthyciwr yn gosod y gyfradd llog y byddwch yn ei thalu ac yn codi neu'n gostwng y gyfradd hon fel bo'n briodol i weddu i amodau'r farchnad. Agwedd negatif ar hyn yw y bydd eich ad-daliadau misol yn amrywio ac na fyddwch yn sicr o'r swm y byddwch yn ei dalu yn y dyfodol
- Cyfradd ostyngol: Byddwch yn talu cyfradd amrywiol y benthyciwr minws gostyngiad cytunedig am gyfnod penodedig fel un neu ddwy flynedd. Gall hwn fod yn ddefnyddiol os oes gennych gyllideb gyfyng oherwydd bod y taliadau cychwynnol yn is, ond bydd eich taliadau'n codi neu'n gostwng mor aml ag y mae'r benthyciwr yn newid ei gyfraddau
- Cyfradd benodedig: Rydych yn talu cyfradd llog sy'n warantedig am gyfnod penodedig, felly gallwch fod yn sicr na fydd eich taliadau'n amrywio. Pe codai'r cyfraddau llog, byddai cyfradd benodedig yn eich diogelu rhag talu cyfradd uwch ar eich morgais. Ond pe fyddai'r gyfradd morgais yn gostwng, byddech yn parhau i dalu'r gyfradd benodedig
- Cyfradd sydd wedi'i chapio: Mae'r gyfradd llog yn amrywiol ond fe sicrheir na fydd yn mynd yn uwch na lefel benodol neu 'cap' am gyfnod penodedig, ond fe all ostwng. Mae cyfradd sydd wedi'i chapio yn opsiwn da os ydych am fod yn sicr na fydd eich taliadau yn mynd yn uwch na lefel benodol, ond nid ydych am gael cyfradd sy'n gwbl benodedig rhag ofn bod y cyfraddau llog yn gostwng
- Arian yn ôl: (Nid yw hwn yn opsiwn cyfradd llog, ond yn aml fe gyfunir gyda chytundebau cyfradd llog arbennig) cewch swm o arian yn ôl - cannoedd o bunnoedd yn aml - pan gewch forgais. Gall fod yn ddefnyddiol os oes angen arian arnoch i brynu dodrefn, er enghraifft. Ond medrwch gael cyfradd llog is os cewch gytundeb heb gael arian yn ôl
- Peidiwch â phoeni os yw'r wybodaeth hon yn rhy gymhleth. Y ffordd orau o gael y morgais mwyaf perthnasol yw trwy drafod eich anghenion â rhywun
- Gallwch wneud apwyntiad gyda'ch banc lleol i siarad â chynghorwr morgais neu mae sawl cymdeithas adeiladu'n cynnig gwasanaeth cynghori ar forgeisi. Mae rhai'n dewis siarad â chynghorwr ariannol annibynnol ond bydd rhaid talu ffi am wasanaeth o'r fath.
- Mae gwahanol gwmnïau'n cynnig morgeisi gwahanol felly mae'n gwerth chweil mynd at sawl banc neu gymdeithas adeiladu er mwyn cael y cytundeb gorau
- Ceisiwch gyngor cynghorwyr ariannol annibynnol neu gynghorwr morgeisi cyn cytuno ar unrhyw forgais
- Cofiwch - peidiwch â theimlo bod pwysau arnoch i gymryd morgais hyd nes y byddwch yn hapus ei fod yn gweddu i'ch anghenion


