Gwybodaeth » Tai » Dod o hyd i lety ar rent » Lletya
- Os ydych chi'n lletya, rydych yn byw yn yr un llety â'r landlord ac yn talu rhent am fyw yno
- Os ydych yn chwilio am rywle i fyw fel lletywr, edrychwch mewn papurau newydd lleol, ar hysbysfyrddau mewn swyddfeydd post a siopau ac yn y brifysgol neu'r coleg lleol
- Pan rydych yn byw yn yr un llety â'ch landlord, mae hawliau gwahanol gennych nag y bydd gennych fel tenant. Bydd lletywyr a landlordiaid fel arfer yn trafod y hawliau hyn. Er enghraifft, a fyddwch yn prynu a choginio eich bwyd eich hun, ac a ydych yn mynd i gael preifatrwydd yn eich ystafell chi eich hun
- Os ydych chi'n lletya, does dim rhaid i chi gael cytundeb ysgrifenedig, er ei bod hi'n syniad da creu un gan fod hwn yn gosod yr amodau'n glir a gall osgoi unrhyw gamddeall
- Dylai cytundeb ysgrifenedig gynnwys:
- y swm y disgwylir i chi dalu am yr ystafell a gwasanaethau eraill
- yn union beth yw'r gwasanaethau hyn
- faint o rybudd y bydd rhaid ei roi os ydych am orffen y denantiaeth
- a oes rhaid talu blaendal ac a fydd hwn yn cael ei ddychwelyd?
- yr amodau ar gyfer codi pris y rhent a faint o rybudd a roddir i chi
- a fydd gennych allwedd i'ch ystafell chi?
- a oes hawl gennych i gael pobl i aros yn eich ystafell chi?
- a fyddwch yn rhannu'r ystafell gyda thenantiaid eraill?
- Rhaid cytuno ar y materion hyn; mae'r hanfodol eich bod yn eu trafod gyda'ch landlord ac yn ysgrifennu cytundeb a'i lofnodi
- Bydd eich landlord yn talu treth cyngor hefyd, felly os ydych yn gymwys, rhaid i chi drefnu talu'ch rhan chi gyda'r landlord


