Gwybodaeth » Tai » Dod o hyd i lety ar rent » Arian i rentu
- Pan fyddwch yn symud i lety ar rent, mae llawer o faterion ariannol y mae'n rhaid i chi eu hystyried yn gyntaf
- Yn ogystal â thalu rhent wythnosol neu fisol, efallai y bydd rhaid i chi dalu blaendal neu fond, biliau a chostau cartref eraill
- Cyn llofnodi cytundeb tenantiaeth, dylech ddarganfod:
- Pris y rhent
- Pryd y mae'n rhaid ei dalu - yn wythnosol neu'n fisol?
- Faint yw'r blaendal/bond?
- A gaiff unrhyw filiau eu cynnwys ym mhris y rhent?
- Tua faint fydd rhaid ei dalu ar gyfer biliau?
- Gall rhentu fod yn ddrud felly dylech wneud yn siwr y gallwch fforddio'r rhent y mae'r landlord yn gofyn amdano, yn ogystal â chost ychwanegol y biliau egni, biliau bwyd a chostau byw cyffredinol. Gwelwch BILIAU am wybodaeth bellach ar gost biliau a sut i'w gostwng
- Bydd y bond neu'r blaendal fel arfer yn gyfwerth â phris rhent un mis ac fe'i ddefnyddir i dalu am unrhyw ddifrod neu drwsio sydd angen ei wneud pan fyddwch yn gadael. Os byddwch yn cadw'r ty'n dwt a thaclus yn ystod y denantiaeth, cewch y bond i gyd yn ôl. Rhaid i chi dalu hwn ar yr un pryd â llofnodi'r cytundeb tenantiaeth
- Gall fod yn ddefnyddiol cyfrifo cyllideb cyn dechrau chwilio am dy neu fflat. Dylech ystyried eich incwm a'ch treuliau i gyfrifo'r hyn y gallwch ei fforddio.
- Am ragor o wybodaeth ar gyllidebu, gwelwch adran CYLLIDEBU dan ARIAN
- Unwaith i chi benderfynu ar swm realistig y gallwch ei dalu, cadw ato. Os na fedrwch dalu'r rhentu gallwch gael eich troi allan neu gall y landlord fynd â chi i'r llys felly sicrhewch ei fod o fewn eich cyllideb
- Os na fedrwch gadw at daliadau'r rhent, siaradwch â'ch asiantaeth gosod neu'ch landlord ac esboniwch y sefyllfa. Efallai y gallwch gytuno ar gynllun talu arall os oes gennych drafferthion. Peidiwch byth ag anwybyddu problemau - gallant ddim ond mynd yn waeth
- Os hoffech siarad â rhywun am eich problemau ynghylch talu rhent neu filiau, gallwch gael cyngor y Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu siarad yn gyfrinachol â Childline neu'r Samariaid. Mae bob amser rhywun a all roi cymorth i chi beth bynnag fo'r broblem


