Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Tai » Digartrefedd » Rhedeg i Ffwrdd

  • Pan fo pethau'n wael iawn adref, efallai y byddwch yn teimlo mai rhedeg i ffwrdd yw'r unig ateb
  • Mae tua 77,000 o bobl ifanc dan 16 oed yn rhedeg i ffwrdd o'u cartrefi bob blwyddyn. Ond mae nifer ohonynt yn mynd yn ddigartref neu'n byw ar y stryd. Cafodd un o bob wyth person ifanc ei gam-drin yn gorfforol ac un o bob naw ei gam-drin yn rhywiol pan roeddynt i ffwrdd
  • Efallai ni fydd rhedeg i ffwrdd yn ateb i'ch problem felly, oni bai eich bod mewn perygl, y peth olaf y dylech ei ystyried yw rhedeg i ffwrdd.
  • Cyn gwneud unrhyw benderfyniad, mae'n bwysig iawn siarad â rhywun ynglyn â'ch opsiynau. Gallwch siarad am ddim ac yn gwbl gyfrinachol â Childline, Shelter Cymru, Llinell Amddiffyn Plant NSPCC neu Linell Gymorth Rhedeg i Ffwrdd Unigolion Coll Cenedlaethol (National Missing Persons Runaway Helpline). Gallant roi cymorth a chyngor beth bynnag rydych am ei wneud - a does dim rhaid i chi ddweud eich enw
  • Cofiwch, os ydych yn mynd i adael eich cartref, sicrhewch fod gennych rywle i fynd ato yn gyntaf. Mae'n anodd iawn dod i hyd i lety felly peidiwch â meddwl y bydd yn hawdd gallu dod o hyd i rywle diogel i fyw ynddo. Er enghraifft, ewch i dy ffrind neu aelod y teulu os teimlwch na fedrwch aros yn eich cartref mwyach
  • Fedrwch chi ddim cael tenantiaeth hyd nes eich bod yn 18 oed, ond os ydych yn 16 neu 17 oed, mae cyfrifoldeb cyfreithiol gan yr awdurdod lleol i ddod o hyd i lety ar eich cyfer
  • Os oes gennych broblemau gyda'ch teulu, ond yn ei chael hi'n anodd siarad â nhw, ceisiwch gymorth gwasanaeth cymodi cyn rhedeg i ffwrdd. Mae Gwasanaeth Cymodi Llamau yn gweithio gyda phobl ifanc yng Nghymru a'u teuluoedd i geisio datrys eu problemau a'u hannog i aros neu ddychwelyd adref. Mae manylion y gwasanaeth hwn ar waelod y dudalen
  • Os ydych yn ystyried rhedeg i ffwrdd oherwydd trais neu gamdriniaeth deuluaidd, gwnewch yn siwr eich bod yn derbyn cymorth a chefnogaeth. Does neb yn disgwyl i chi fyw mewn perygl. Ffoniwch Childline neu Linell Amddiffyn Plant yr NPSCC neu ewch i'r adran TRAIS TEULUOL am ragor o wybodaeth. Mae llefydd diogel y gallwch fynd atynt, fel ty noddfa, felly ceisiwch gymorth a pheidiwch â bod yn unig
    Os teimlwch na fedrwch aros yn eich cartref, sicrhewch bob amser fod gennych le diogel i fynd ato. Gwelwch yr adran SUT I OSGOI MYND YN DDIGARTREF cyn gwneud unrhyw beth, a siaradwch â rhywun ynglyn â'ch teimladau yn gyntaf
  • Mae bod yn ddigartref yn frawychus, yn oer ac yn unig felly ystyriwch eich penderfyniad i redeg i ffwrdd a cheisiwch y cyngor cywir yn gyntaf

Wedi rhedeg i ffwrdd yn barod?

  • Os ydych eisoes wedi rhedeg i ffwrdd ac angen cymorth a chyngor, mae bob amser pobl y gallwch siarad â nhw. Cysylltwch ag unrhyw un o'r sefydliadau isod cyn gynted â phosib er mwyn cael cyngor am yr hyn y gallwch ei wneud nesaf. Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau yn rhad ac am ddim ac nid oes rhaid rhoi'ch enw os nad ydych am wneud hynny
  • Os ydych wedi rhedeg i ffwrdd, mae sawl ffordd o roi gwybod i bobl eich bod yn ddiogel a rhoi'ch rhesymau dros adael heb eu gweld nhw wyneb yn wyneb trwy ddefnyddio Llinell Gymorth Neges Adref Unigolion Coll (Missing Persons Message Home Helpline). Gwelwch y manylion isod
  • Cofiwch, os ydych yn 16 neu 17 oed, mae cyfrifoldeb cyfreithlon gan yr awdurdod lleol i ddod o hyd i rywle i chi aros ynddo felly peidiwch ag aros ar y stryd, cysylltwch â nhw er mwyn cael rhywle i fyw

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.