Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Tai » Digartrefedd » Hosteli a Llety â Chymorth

  • Os ydych yn ddigartref, gall byw mewn hostel neu lety â chymorth fod yn opsiwn i chi

Hosteli a llochesau nos

  • Er bod llawer o hosteli a llochesau nos ar gael i bobl ddigartref, maen nhw fel arfer yn llawn felly gall fod yn anodd cael gwely am noswaith
  • Fe'u cynhelir gan amlaf gan yr awdurdod lleol, elusennau neu gymdeithasau tai. I gael manylion hostel neu loches yn eich ardal leol, ffoniwch Shelter Cymru am ddim
  • Mae gan hosteli a llochesau restrau aros gan fod cymaint o alw amdanynt. Mae'n syniad da ceisio rhoi'ch enw ar restr trwy asiantaethau fel Shelter Cymru neu'r cyngor lleol er mwyn gwella'ch siawns o gael lle
  • Bydd rhai yn derbyn pobl wrth y drws, ond dim ond os oes le ganddynt am berson arall, ac mae rhai yn rhoi lle i grwpiau penodol o bobl yn unig, megis pobl ifanc sengl, pobl gyda phroblemau â chyffuriau neu alcohol, pobl gyda phroblemau iechyd meddwl neu bobl sydd â'r angen mwyaf (sydd wedi bod ar y stryd am yr amser hwyaf)
  • Nid oes rhaid talu i aros mewn lloches nos fel arfer, ond bydd y rhan fwyaf o hosteli'n codi tâl. Mae'r ddau yn cynnig bwyd, er efallai bydd rhaid talu am hwn mewn hostel
  • Mae safonau'r llety'n amrywio, ond mae llochesau nos fel arfer yn sylfaenol iawn

Llety â chymorth

  • Mae cynlluniau llety â chymorth yn cysylltu pobl sydd angen rhywle i fyw â phobl sydd ag ystafell i'w rhentu
  • Cânt eu cynnal gan yr awdurdod lleol a gallant fod yn rhatach na hostel
  • Bydd rhai deiliaid ty hefyd yn darparu prydau bwyd fel rhan o'ch rhent, y gallwch dalu amdano gydag unrhyw fudd-daliadau rydych yn eu hawlio
  • Mae llety â chymorth yn llefydd da i aros ynddynt cyn i chi symud i'ch llety eich hun, ond bydd y cyfnod y gallwch aros mewn llety â chymorth yn dibynnu ar ba mor hir y mae'r ystafell ar gael a pha mor dda rydych yn cyd-dynnu gyda'r bobl sy'n byw yn y llety
  • Bydd staff y cynllun llety â chymorth mewn cysylltiad â chi trwy gydol eich amser yn y llety a byddant yn rhoi cymorth i chi drin unrhyw fudd-daliadau neu broblemau a rhoi cymorth i chi ddod o hyd i le i fyw yn barhaol
  • Cysylltwch â'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu Shelter Cymru er mwyn cael manylion am eich cynllun llety â chymorth agosaf

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.