Gwybodaeth » Tai » Digartrefedd » Cysgu ar y stryd
- Cysgu ar y stryd yw opsiwn olaf person digartref. Mae'n beryglus ac yn annymunol dros ben a dylid ei osgoi
- Os ydych wedi rhoi cynnig ar bob opsiwn arall a does dim dewis arall gennych, dylech geisio cadw mor ddiogel a chynnes ag y gallwch
- Dyma rai awgrymiadau am aros yn ddiogel ac iach ar y stryd
- Ceisiwch ddod o hyd i rywle cysgodol i ffwrdd allan o'r gwynt neu'r glaw
- Amddiffynnwch eich hun rhag yr oerfel a'r gwynt gyda blanced neu sach gysgu
- Peidiwch â chysgu ar y llawr ei hun, cysgwch ar gynfas neu flanced os medrwch
- Cysgwch gyda grwp o bobl er mwyn bod yn fwy diogel, ond osgowch lefydd cyhoeddus os yn bosib er mwyn osgoi perygl y cyhoedd cyffredinol, fel trais neu gamdriniaeth
- Ceisiwch aros mewn llefydd y mae prosiectau estyn allan yn ymweld â nhw. Gallant ddod â bwyd, dwr a blancedi am ddim, a mynd â chi i'm r lloches agosaf os oes lle
- Gall fod yn anodd cael triniaeth feddygol os ydych yn byw ar y stryd, er bod hawl gennych gofrestru gyda doctor. Os ydych yn sâl, mae canolfannau galw heibio gan rai meddygfeydd. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 neu ymwelwch ag uned damwain ac argyfwng eich ysbyty lleol
- Gall fod yn syniad da cadw unrhyw eiddo sydd gennych mewn canolfan ddydd leol, os yw hyn yn bosibl. Mae hwn yn lleihau'r siawns o gael eich ysbeilio neu'ch bygwth ar y stryd
- Darganfyddwch ragor ynglyn â'r canolfannau estyn allan, canolfannau dydd a gwasanaethau ar gyfer y digartref yn eich ardal chi. Byddant yn cynnig eich cyfle gorau o gael llety neu gyngor ar ddod oddi ar y stryd
- Os ydych yn ddigartref ac am siarad â rhywun, mae digon o bobl y gallwch siarad â nhw am ddim ac yn gyfrinachol felly cysylltwch â nhw cyn gynted â phosib


