Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Tai » Byw yn eich cartref newydd a'i gynnal » Diogelwch

  • P'un ai eich bod yn byw ar eich pen eich hun neu gyda phobl eraill, rhaid cadw eich tŷ'n ddiogel er mwyn amddiffyn chi'ch hunan a'ch eiddo
  • Dyma rai awgrymiadau ar gadw'n ddiogel yn eich cartref:
    • Rhowch dwll sbïo yn eich drws ffrynt. Mae'n hawdd torri cadwyni diogelwch. Defnyddiwch y twll sbïo bob tro cyn ateb y drws. Byddwch yn wyliadwrus o alwadau ffug a gofynnwch i weld cerdyn adnabod cyn agor y drws. Mae rhagor o awgrymiadau ar osgoi ymwelwyr twyllodrus yn yr adran lincs isod
    • Sicrhewch fod cloeon da a chryf ar bob drws a ffenest. Daw ladron trwy'r drws neu'r ffenestr mewn 80 o bob 100 lladrad
    • Peidiwch byth â gadael y tŷ heb gloi pob drws a ffenestr yn dynn, hyd yn oed os ydych yn gadael y tŷ am ychydig o funudau yn unig
    • Peidiwch â gadael pethau gwerthfawr, fel setiau teledu, cyfrifiaduron neu chwaraewyr DVD rhywle y gall lladron eu gweld trwy ffenest neu ddrws
    • Peidiwch byth â gadael allweddi yn y clo. Hyd oed pan fyddwch yn eich cartref, rhowch yr allweddi lle na ellir eu cyrraedd o'r drws neu'r ffenest ac wedi'u cuddio
    • Defnyddiwch farciwr diogelwch anweladwy i ysgrifennu'ch cod post ar eitemau gwerthfawr fel beiciau. Bydd gwneud hyn yn helpu'r heddlu eu hadnabod pe byddent yn cael eu dwyn
    • Cadwch y goleuadau ymlaen pan fyddwch yn gadael y tŷ. Mae hyn yn creu argraff bod rhywun yn y tŷ
    • Gosodwch larwm diogelwch
    • Cadwch giatiau'r ardd, drws y garej a'r sied dan glo drwy'r amser
    • Dychmygwch eich bod yn lleidr yn chwilio am ffyrdd i mewn i'ch tŷ a cheisiwch leihau'r siawns y bydd unrhyw un yn gallu torri mewn - trimiwch ganghennau sy'n agos at y ffenestri neu rhowch ddelltwaith (trellis) ar eich ffensys fel na all unrhyw un gerdded arnynt
    • Peidiwch byth â gadael allweddi sbâr dan botiau, matiau neu ar ben ffrâm y drws. Mae lladron yn gwybod bod pobl yn gwneud hyn hefyd!
    • Os ydych yn mynd i ffwrdd am gyfnod hir, canslwch y llaeth a'r papurau newydd a threfnwch fod eich cymydog yn casglu'ch post fel na fydd yn pentyrru. Peidiwch â gadael i'ch tŷ edrych yn ddiffaith
    • Ymunwch â Chynllun Gwarchod y Gymdogaeth ('Neighbourhood Watch') a chadwch olwg ar dai eraill yn eich stryd a nodwch unrhyw ddigwyddiadau afreolaidd
  • Os nad ydych yn teimlo'n ddiogel yn eich cartref, galwch gymydog neu ffrind sy'n byw'n agos a gofynnwch a allwch aros gyda nhw. Os credwch eich bod mewn perygl mawr, ffoniwch 999

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.