Gwybodaeth » Tai » Byw yn eich cartref newydd a'i gynnal
Pan symudwch i’ch cartref newydd, bydd llawer o bethau i’w hystyried yn hytrach na chael eich dodrefn, penderfynu ble i hongian y lluniau a pha liw i beintio’r lle.
Mae angen i chi feddwl am dalu’r biliau a threth y cyngor, cael yswiriant cartref, trefnu llinell ffôn, cadw’r tŷ mewn cyflwr da a’i warchod yn dda. Os ydych yn newydd i’r ardal, mae hefyd yn golygu setlo i mewn i’ch stryd, tref neu ddinas newydd a dod i adnabod eich cymdogion.
Mae’r adran hon yn edrych ar wahanol agweddau ar fyw yn a chynnal eich cartref newydd, ynghyd ag awgrymiadau defnyddiol ynghylch gwneud byw ar eich pen eich hun mor hawdd â phosibl.


