Gwybodaeth » Iechyd » Smygu ac Alcohol » Smygu

- Dywedodd bron i 27% o ferched 15 oed a 15% o fechgyn 15 oed yng Nghymru eu bod nhw’n smygu’n rheolaidd pan gynhaliwyd arolwg yn 2001/2. Mae nifer y bobl ifanc yng Nghymru sy’n dweud eu bod nhw’n smygu’n rheolaidd yn cynyddu o 11 oed i 15 oed. Felly mae’n bwysig iawn bod pobl ifanc yn deall y risgiau maen nhw’n eu cymryd os ydyn nhw’n penderfynu smygu tybaco. Mae’r rhan fwyaf o oedolion sy’n smygu wedi dechrau smygu pan oedden nhw’n ifanc, ac mae llawer ohonyn nhw eisiau rhoi’r gorau iddi ond maen nhw’n ei chael yn anodd ac maen nhw’n difaru dechrau smygu pan oedden nhw yn eu harddegau.
- Mae tybaco’n cael ei wneud o ddail planhigion tybaco. Mae’r dail yma’n cynnwys nicotin sy’n gyffur hynod o gaethiwus ac fe all effeithio ar sut mae’ch ymennydd yn gweithio.
- Y ffordd fwyaf cyffredin o ddefnyddio tybaco yw ei smygu, ond mae yna bobl hefyd sy’n cnoi tybaco.
Mae tybaco’n cynnwys dros 400 o gemegau ac mae’r rhain yn gallu gwneud llawer o ddrwg i’r corff.
- Effaith smygu tybaco yw ei fod yn gallu gwneud i bobl deimlo'n ddigyffro a theimlo'n well ar y cyfan, ac fe all wneud i'r defnyddiwr deimlo'n llai newynog. I rai sy’n rhoi cynnig ar smygu am y tro cyntaf, yr effaith yw gwneud iddyn nhw deimlo’n sâl ac yn benysgafn.
- Ymhlith y risgiau mae:
- Mae’r rheiny sy’n smygu yn fwy tebygol o gael heintiad ar y frest a pheswch
- Mae cysylltiad rhwng canser, clefyd y galon ac emffysema a smygu dros gyfnod hir. Mae hyn yn cynnwys canser y dafod, y geg a’r ysgyfaint
- Mae cysylltiad rhwng torri 2000 o freichiau a choesau i ffwrdd bob blwyddyn a smygu
- Mae oddeutu 120,000 yn marw cyn y dylen nhw fod yn marw bob blwyddyn yn y DU oherwydd eu bod nhw wedi smygu
- Gall mwg sigarèts pobl eraill hyd yn oed effeithio ar y rheiny nad ydyn nhw’n smygu, a gall achosi iddyn nhw ddioddef o nifer o broblemau’n ymwneud â’u hiechyd, gan gynnwys asthma a chanser
- Mae’n anghyfreithlon i unrhyw un werthu tybaco neu gynhyrchion tybaco i unrhyw un dan 18 oed.
- Mae yna lawer o help ar gael i'ch cynorthwyo i roi'r gorau i smygu, ac os byddwch chi'n edrych ar y gwefannau isod fe fyddwch chi'n cael gwybod mwy am risgiau smygu a lle i ddod o hyd i help a chyngor ar roi’r gorau iddo.