Gwybodaeth » Iechyd » Smygu ac Alcohol » Alcohol
- Mewn arolwg a gynhaliwyd yng Nghymru yn 2001/2 adroddwyd bod cyfran y bobl ifanc rhwng 11 a 15 oed sy’n yfed alcohol bob wythnos lawer yn uwch nag ydyw yn y rhan fwyaf o wledydd eraill yn Ewrop a Gogledd America. Adroddodd 58% o fechgyn a 54% o ferched 15 oed eu bod nhw’n yfed alcohol bob wythnos.
(Tynnwyd yr ystadegau o arolwg Ymddygiad Iechyd Plant Oed Ysgol (HSBC)) - Cemegyn o’r enw Ethanol yw alcohol, ac ymhlith ei enwau eraill mae Booze, Diod, Saws a Bevvy a gellir ei brynu ar ffurf Cwrw, Gwin a gwirodydd.
- Gall effeithiau alcohol gynnwys gwneud ichi deimlo’n ddigyffro ac weithiau’n gysglyd, neu gall wneud ichi deimlo’n llawn cynnwrf a bod am wneud pethau na fyddech chi’n ystyried eu gwneud pe byddech chi’n sobr. Pan fyddwch chi’n yfed alcohol fe fydd yn mynd i mewn i lif eich gwaed mewn ychydig o funudau, ond gall ei effeithiau bara am oriau. Ymhlith yr effeithiau eraill mae colli’ch cydbwysedd, siarad yn aneglur ac, o bosib, peidio â gweld yn glir.
- Pan fyddwch chi’n goryfed alcohol yn rheolaidd, efallai pyliau goryfed, gall y risgiau fod yn ddifrifol i’ch iechyd a’ch diogelwch. Maen nhw’n cynnwys clefyd yr iau, wlserau, niwed i’r ymennydd, sychu’r corff a fydd yn effeithio ar eich croen, ac ymosodiad ar y fitaminau a’r mwynau yn eich corff y mae eu hangen ar eich corff i weithio'n iawn.
- Ymhlith effeithiau posib eraill gall alcohol eich gwneud yn fwy tebygol o gael damwain ac o fod yn rhan o drosedd.
- Os byddwch chi’n yfed alcohol yn synhwyrol a chithau’n gallu barnu beth rydych chi’n ei yfed a rheoli’r hyn y byddwch chi’n ei wneud, ystyrir hyn yn gymdeithasol dderbyniol cyn belled â’ch bod chi o fewn y cyfreithiau alcohol. (gwelwch isod)
Cyfreithiau Alcohol
- Os ydych chi dan 14 oed ni chewch chi fynd i mewn i dafarn/bar oni bai bod ganddi/ganddo drwydded addas
- Pan rydych chi rhwng 14 a 16 oed cewch chi fynd i mewn i dafarn/bar ond ni chewch chi yfed alcohol
- Rhwng 16 a 17 oed cewch chi brynu cwrw neu seidr i’w yfed gyda phryd, neu gall rhywun arall brynu un ichi
- Os ydych chi dan 18 oed ni chewch chi brynu alcohol unrhyw le oni bai eich bod chi yn yr amgylchiadau sydd wedi’u nodi dan y pwynt blaenorol
- Os ydych chi dros 18 oed mae'n anghyfreithlon ichi brynu alcohol i unrhyw un dan 18 oed
- Mae’n anghyfreithlon gwerthu alcohol rydych chi wedi’i wneud adref
- Yn y rhan fwyaf o leoedd, ni chaniateir yfed ar y strydoedd
Rhowch gynnig ar y gwefannau a’r llinellau cymorth canlynol i gael rhagor o wybodaeth am effeithiau alcohol a risgiau yfed, ac i gael help os ydych chi'n pryderu am eich yfed eich hun neu yfed rhywun arall.


