Gwybodaeth » Iechyd » Maetheg a Gweithgarwch Corfforol » Gordewdra
Mae bod yn ordew yn golygu y gallai pwysau rhywun beryglu ei iechyd. Gall pobl ddod yn ordew yn raddol wrth iddyn nhw fwyta mwy o galorïau nag mae’r ymarfer corff maen nhw’n ei wneud yn eu treulio.
Mae yna rai cyflyrau meddygol sy'n achosi i bobl ennill pwysau; os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n ennill pwysau heb unrhyw reswm amlwg mae’n beth doeth trafod eich pryderon â'ch meddyg teulu a fydd yn rhoi cyngor ichi ar golli pwysau waeth beth fo’r rheswm.
Bydd eich Mynegai Màs y Corff (BMI) yn rhoi syniad ichi a ydych chi’n rhy drwm ai peidio.
Cyfrifo BMI
- Mesur eich taldra mewn metrau a’i luosi â'i hun = X
- Mesur eich pwysau mewn cilogramau = Y
- Rhannu Y â X = BMI
Er enghraifft:
Yn achos rhywun sy’n pwyso 80kg ac sy’n 1.7m o daldra:
- 1.7 x 1.7 = 2.89 (X)
- 80 (Y) rhannu â 2.89 = BMI 27.68 – mae hyn yn y categori rhy drwm.
Mae’r canlynol yn nodi beth sy’n bwysau iach yn ôl BMI:
- BMI llai nag 20 rhy ysgafn
- BMI 20 i 25 pwysau iach
- BMI 25 i 30 rhy drwm
- BMI 30+ gordew
Bydd bwyta diet iach, cytbwys a gwneud ymarfer corff yn helpu i leihau eich pwysau ac i gynnal pwysau iach. Darllenwch adrannau CLIC ar Maetheg a Gweithgarwch Corfforol. Nid yw dietau ffasiynol a dietau carlam yn ffordd synhwyrol o golli pwysau. Bydd deall y grwpiau bwydydd y mae angen ichi eu cynnwys yn eich diet a’r dognau iawn o fwydydd i’w bwyta yn eich helpu i newid i ddiet y byddwch chi’n gallu ei ddilyn am weddill eich bywyd. Ni fydd yn realistig penderfynu na fyddwch chi'n bwyta sglodion, siocled a theisennau byth eto. Fe fydd bwyta llai o’r bwydydd yma a bwyta mwy o ffrwythau a llysiau (o leiaf pum dogn y dydd) yn eich diet dyddiol, a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd (e.e. cerdded 30 munud y dydd) yn fwy effeithiol i’ch helpu i golli pwysau.


