Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Rhywiol » Y Pidyn
- Mae yna ddwy brif ran i bidyn y dyn – y pen a’r goes
- Y blaengroen yw'r llawes o groen o amgylch pen y pidyn
- Ar gyfartaledd, bydd pidyn oedolyn fel arfer rhwng dwy a phedair modfedd (6-10cm) o hyd pan yn feddal a rhwng pedair a saith modfedd (12-19cm) o hyd ar ei godiad
- Bydd trwch pidyn dyn ar ei godiad fel arfer oddeutu un fodfedd a hanner (3-4cm) ar draws
- Nid oes maint ‘cywir’ ar gyfer pidyn – mae pawb yn wahanol felly peidiwch â chymharu eich hun â’ch ffrindiau
Codiadau a had-dafliad
- Pan fydd dyn yn cael ei gyffroi yn rhywiol, bydd gwaed yn rhuthro i’r pidyn gan ei wneud yn galed a rhoi codiad iddo. Dyma pan fydd y pidyn yn mynd yn stiff, yn tyfu’n hirach ac yn lletach ac yn sticio allan o’r corff
- Had-dafliad yw’r enw ar y sefyllfa pan fydd swm bach o semen yn cael ei chwistrellu allan o bidyn ar ei godiad, a gall hyn ddigwydd pan fyddwch chi’n cael rhyw, yn mastwrbeiddio neu hyd yn oed yn eich cwsg. Gwelwch adran Beichiogrwydd
- I’ch amddiffyn rhag beichiogrwydd neu heintiau a drosglwyddir trwy ryw dylech chi bob amser wisgo condom dros y pidyn yn ystod rhyw. Gwelwch adran Atal cenhedlu
Enwaediad
- Enwaediad yw’r enw ar y broses o gael gwared â’r blaengroen yn llwyr, fel arfer am resymau crefyddol neu feddygolNid yw’n gwneud unrhyw wahaniaeth i allu dyn i gael pleser rhywiol neu i’w roi
Iechyd rhywiol
- Os ydych chi’n sylwi ar unrhyw newidiadau yn eich pidyn, fel smotiau, mannau coch neu redlif anarferol, ewch i weld eich Meddyg Teulu neu’r clinig lleol ar unwaith. Peidiwch â theimlo embaras – maen nhw wedi gweld popeth o’r blaen a byddan nhw’n hapus i’ch


