Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Rhywiol » Y mislif a Syndrom Cyn Mislif (PMS)

Y mislif

  • Y mislif yw’r adeg pan fydd gwaed yn pasio trwy’r fagina. Bydd yn cychwyn yn ystod y glasoed, fel arfer rhwng wyth ac 16 oed
  • Pan fydd merched yn cael eu geni, fe fydd ganddyn nhw filoedd o wyau y tu mewn i'w hofarïau. Pan fyddwch chi’n cyrraedd y glasoed, bydd un wy yn cael ei ryddhau o’r ofarïau bob mis, a bydd yn teithio trwy’r tiwb ffalopaidd i mewn i’ch croth. Gwelwch adran Glasoed
  • Bob mis, bydd eich corff yn paratoi ar gyfer y posibilrwydd y byddwch chi’n dod yn feichiog, a daw ei leinin yn drwchus ac yn feddal, yn barod ar gyfer baban. Gwelwch adran Beichiogrwydd
  • Os na fydd yr wy yn cael ei ffrwythloni, bydd y corff yn rhoi gwybod i’r leinin a bydd yr wy yn dod allan o’ch corff trwy eich fagina ar ffurf mislif. Mae’r wy yn rhy fach i’w weld â’r llygad noeth
  • Yna bydd y broses yn dechrau eto. Cylchred y mislif yw’r enw ar yr amser rhwng un mislif a’r nesaf, a gall hwn amrywio o’r naill ferch i’r llall. Bydd fel arfer yn cymryd rhyw fis, er yn ystod yr ychydig flynyddoedd cyntaf fe all fod braidd yn fwy afreolaidd
  • Bydd y mislif yn para rhwng dau ac wyth diwrnod fel arfer, ond mae pawb yn wahanol
  • Gall fod yn beth cyffrous a brawychus cael eich mislif cyntaf, felly ceisiwch siarad â’ch mam, eich gwarcheidwad neu ferch sy’n oedolyn – fe fyddan nhw’n gallu cynnig cyngor a chefnogaeth ichi

Cynhyrchion ar gyfer y mislif

  • Yn ystod eich mislif, fe fydd angen cynhyrchion fel tamponau neu dyweli mislif arnoch chi. Gallwch chi brynu’r rhain mewn unrhyw archfarchnad, siop leol ac mewn rhai toiledau cyhoeddus
    • Byddwch chi’n rhoi’r tyweli i lynu at eich nicers a byddan nhw’n amsugno’r gwaed wrth iddo adael eich corff
    • Byddwch chi’n gwthio tamponau i mewn i’ch fagina i amsugno’r gwaed cyn iddo adael eich corff
  • Eich dewis personol chi yw penderfynu pa gynnyrch rydych chi am ei ddefnyddio
  • Mae’n rhaid newid tyweli a thamponau sawl gwaith y dydd, bob rhyw bedair awr fel arfer, a chofiwch bob amser olchi eich dwylo cyn ac ar ôl gwneud hynny
  • Os cewch chi frech, dolur gwddf, cur pen, twymyn sydyn neu ddolur rhydd, neu os ydych chi’n cyfogi, rhowch y gorau i ddefnyddio tamponau ar unwaith ac ewch i weld eich meddyg yn ddi-oed – mae’n bosib eich bod chi’n dioddef o haint facteriol o'r enw Syndrom Sioc Tocsig, sef haint a all fod yn ddifrifol iawn

Syndrom Cyn Mislif (PMS)

  • PMS yw’r symptomau corfforol a seicolegol y gall merch ddioddef ohonyn nhw ychydig cyn i’w mislif ddechrau, a bydd y rhain yn tueddu i wella unwaith y bydd y gwaedu’n cychwyn
  • Mae’n effeithio ar un merch o bob tair, ac ystyrir ef yn gyflwr meddygol
  • Mae yna fwy na 150 o symptomau PMS, gan gynnwys:
    • Iselder a chynnwrf
    • Bronnau tyner
    • Dargadw hylif a theimlo wedi chwyddo
    • Eich hwyliau’n newid a theimlo’n flin
    • Cur pen
    • Newidiadau i’r croen a’r gwallt (fel plorod a gwallt seimllyd)
  • Nid oes unrhyw un sy’n gwybod yn union beth sy’n achosi PMS, ond y gred yw bod cysylltiad rhyngddo a newidiadau i’r hormonau yn y corff cyn mislif
  • Mae yna ffyrdd o leddfu symptomau PMS, gan gynnwys:
    • Diet heb lawer o halen, braster a chaffein
    • Fitaminau B6 ac E
    • Olewau blodau fel Olew Melyn yr Hwyr (Oil of Evening Primrose)
    • Y bilsen atal cenhedlu (siaradwch â’ch meddyg yn gyntaf)

Os ydych chi’n dioddef o PMS eithafol neu unrhyw un neu rai o’i symptomau, ewch i weld eich Meddyg Teulu.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.