Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Rhywiol » Beichiogrwydd
Sut mae beichiogrwydd yn digwydd
- Yn ystod rhyw, bydd sberm sy’n cael ei ryddhau o’r pidyn yn nofio i mewn i’r fagina, trwy geg y groth, i mewn i’r groth ac yna i mewn i’r tiwbiau ffalopaidd yn edrych am wy i’w ffrwythloni
- Os oes yna wy yn y tiwb, fe fydd cannoedd o sberm yn ceisio’i gyrraedd
- Mae’n bosib y bydd un sberm yn glynu at wal yr wy ac yn dechrau ar siwrnai araf i mewn i ganol yr wy. Gall hyn gymryd rhyw dair awr
- Unwaith y bydd y sberm i mewn, bydd y wal yn caledu i atal sberm arall rhag mynd i mewn hefyd
- Yna bydd yr wy, wedi’i ffrwythloni, yn symud i lawr y tiwb ffalopaidd i mewn i’r groth
- Ar ôl rhyw 10 diwrnod bydd yr wy, wedi’i ffrwythloni, yn dechrau glynu at leinin trwchus y groth, a dyna ddechrau i’r beichiogrwydd
- Yna bydd yr embryo yn datblygu yn faban yn y groth
Arwyddion eich bod chi’n feichiog
- Ymhlith yr arwyddion eich bod chi’n feichiog mae:
- Teimlo’n flinedig
- Bronnau wedi chwyddo neu’n dyner
- Methu mislif
- Mislif byrrach, ysgafnach nag arfer
- Newidiadau yn eich chwant bwyd a diflasu ar rai bwydydd
- Cyfog a chwydu (‘salwch bore’ yw’r enw ar hyn, ond gall ddigwydd unrhyw adeg yn ystod y dydd)
- Teimlo wedi chwyddo
- Cramp fel cramp mislif
- Gwneud dwr yn aml
- Hwyliau’n newid
- Os ydych chi’n meddwl eich bod chi’n feichiog, peidiwch â chynhyrfu. Mae profion beichiogrwydd yn y cartref ar gael oddi wrth fferyllwyr ac maen nhw’n costio hyd at £12. Maen nhw’n fanwl-gywir iawn. Gallwch chi hefyd gael profion beichiogrwydd yn rhad ac am ddim mewn llawer o glinigau cynllunio teulu, Meddygon Teulu neu glinigau pobl ifanc
- Os yw’r canlyniadau’n bositif, ceisiwch siarad â’ch partner, eich teulu neu’ch gwarcheidwad a’ch Meddyg Teulu ynglyn â’ch camau nesaf
- Beth bynnag y byddwch chi’n penderfynu ei wneud, fe fydd angen cefnogaeth arnoch chi, felly siaradwch â’r bobl sy’n agos atoch chi
Cyfnodau beichiogrwydd (neu drimisoedd)
- Bydd beichiogrwydd normal fel arfer yn para rhwng 37 a 42 wythnos (naw mis) a bydd yn cael ei fesur o ddiwrnod cyntaf y mislif diwethaf
Y trimis cyntaf
- Ar ôl chwe wythnos, bydd yr holl brif organau yn ffurfio a bydd y galon yn dechrau curo. Bydd yr embryo ychydig dros 1cm o hyd
- Ar ôl 12 wythnos, bydd yr embryo wedi dod yn ffetws a bydd ganddo freichiau, coesau, bysedd, bysedd traed a wyneb. Fe fydd tua 76mm o hyd
Yr ail drimis
- Erbyn 20 wythnos, bydd yr esgyrn yn galed a gall y fam deimlo ciciau neu'r igian (hiccups) hyd yn oed
- Gall y ffetws hefyd glywed synau fel lleisiau
- Erbyn 24 wythnos, bydd y llygaid ar agor. Pe byddai’r baban yn cael ei eni bryd yma, fe allai oroesi, ond mae’n bosib y byddai angen help arno oddi wrth feddygon, ac fe allai ddioddef problemau iechyd mawr
Y trydydd trimis
- Bydd y ffetws yn parhau i dyfu ac ennill pwysau. Bydd yr ysgyfaint yn datblygu o hyd
- Ar ôl 36 wythnos, fe fydd y baban fel arfer yn ymsefydlu mewn ystum â’i ben i lawr, yn barod i’w eni
Pryd fydd merch yn ffrwythlon?
- I feichiogi, mae angen i ferch gael rhyw o gwmpas yr amser mae’n ofylu (pan fydd ei chorff yn rhyddhau wy i’r tiwb ffalopaidd). Bydd hyn yn para 8-9 diwrnod fel arfer
- Bydd merch fel arfer yn ofylu 12-16 diwrnod cyn dechrau ei mislif nesaf
Atal cenhedlu
- I osgoi dod yn feichiog, mae’n rhaid defnyddio dull atal cenhedlu i atal sberm rhag cyfarfod ag wy
- Gall hyn fod yn ddull rhwystrol, fel condom sy’n atal y sberm rhag mynd i mewn i gorff y ferch, neu’n ddull sy’n atal yr wy rhag cael ei gynhyrchu, fel y bilsen atal cenhedlu. Gwelwch adran Atal cenhedlu
Erthyliad
- Erthyliad yw’r enw ar y broses pan fydd beichiogrwydd yn cael ei derfynu trwy gael gwared â’r wy wedi’i ffrwythloni neu embryo o’r groth, naill ai trwy gymryd pils neu drwy lawdriniaeth
- Mae erthyliadau yn gyfreithlon hyd at 24 wythnos yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, ond nid yng Ngogledd Iwerddon
- Rhaid perfformio erthyliadau mewn ysbyty GIG neu glinig cymeradwy
- Mae’n driniaeth feddygol ddiogel ac ni fydd yn effeithio ar eich gallu i gael plant yn y dyfodol. Fodd bynnag, bydd llawer o ferched yn teimlo euogrwydd, stres, iselder a theimlad o golled wedyn
- Mae erthyliadau’n bwnc emosiynol, ac mae llawer o bobl o’u plaid neu yn eu herbyn. Mae’n bwysig eich bod chi’n penderfynu drosoch chi’ch hun ar ôl ichi gael y ffeithiau i gyd. Eich corff chi ydyw, felly penderfynwch CHI.
- Cyn penderfynu, siaradwch â’ch Meddyg Teulu i gael yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch chi


