Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Emosiynol a Meddyliol » Iselder
Gall iselder effeithio ar bobl o bob oed, cefndir, ffordd o fyw a chenhedloedd. Gall y rhan fwyaf o bobl gydag iselder fyw eu bywydau yn arferol ac mae llawer o bobl yn dysgu llawer amdanyn nhw eu hunain ar ôl byw drwy gyfnod o iselder.
Defnyddir y gair iselder mewn llawer o wahanol ffyrdd. Gall pawb deimlo'n drist neu'n ddigalon pan fo pethau drwg yn digwydd. Ond nid iselder yw digalondid a thristwch bob dydd. Gall pobl sy'n ddigalon fod â mwd digalon am dymor byr, ond gallant ymdopi ac maent yn gwella'n fuan heb driniaeth.
Mae iselder yn mynd yn fwyfwy cyffredin. Gall rhai digwyddiadau yn ein bywydau sbarduno cyfnodau o iselder, er enghraifft straen arholiadau neu waith, problemau teuluol, neu bryderon am hunaniaeth neu duedd rywiol. Gall newidiadau hormonaidd, fel yn ystod glaslencyndod, beichiogrwydd neu ddiwedd y mislif hefyd gyfrannu at iselder.
Gall pobl sy'n bryderus brofi -
- Tristwch neu hwyl isel parhaus
- Diffyg diddordeb neu bleser
- Blinder neu ddiffyg egni
- Methu â chysgu
- Methu â chanolbwyntio neu fethu â gwneud penderfyniadau
- Hunanhyder isel
- Archwaeth gwael neu fwy o archwaeth
- Meddyliau neu weithredoedd yn ymwneud â hunanladdiad
- Cyffro neu arafu symudiadau
- Euogrwydd neu feio'r hunan
Nid oes gan bawb sy'n dioddef o iselder yr holl symptomau hyn. Bydd gan bobl sydd ag iselder mwy difrifol fwy o symptomau na'r rhai hynny sydd ag iselder cymedrol.
Gall ffrindiau a theulu fod yn ffynhonnell cymorth bwysig iawn i rywun sydd ag iselder. Mae pobl sy'n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan y rhai o'u cwmpas yn gwella'n gyflymach. Nid yw gwella o iselder mor syml â “thynnu eich hun at eich gilydd”. Mae clywed hynny yn brifo pobl yn arw, a gall wneud i bobl deimlo yn waeth amdanynt eu hunain, gan wneud eu hiselder yn waeth.
Ceir llawer o driniaethau ar gyfer iselder, o feddyginiaeth i therapïau cyflenwol i driniaethau siarad. Os ydych chi'n meddwl y gallwch fod yn ddigalon, siaradwch â rhywun am sut rydych yn teimlo neu gwnewch apwyntiad gyda'ch Meddyg Teulu.



1 Comment – Postiwch sylw
Pasternak
Rhoddwyd sylw 27 mis yn ôl - 7th February 2010 - 20:39pm
I would thoroughly recommend taking just five minutes to read this page on suicide if you feel like you're drowning. It helped me through a dark time.
http://www.metanoia.org/suicide/
One thing that always stuck in my head was the line "People often turn to suicide because they are seeking relief from pain. Remember that relief is a feeling. And you have to be alive to feel it. You will not feel the relief you so desperately seek, if you are dead."