Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Emosiynol a Meddyliol

Bydd un o bob pedwar ohonom yn profi problem ddifrifol gyda'n lles meddyliol rywbryd yn ein bywydau. Mae hyn yn golygu ei bod yn hynod o annhebygol y bydd unrhyw rai ohonom yn mynd drwy ein bywydau heb fod â phroblem iechyd meddwl neu heb fod yn agos at rywun sydd ag un.

Disgrifiwyd lles emosiynol fel ‘cyflwr holistig, goddrychol sy'n bresennol pan gaiff ystod o deimladau, ac yn eu mysg ynni, hyder, bod yn agored, mwynhad, hapusrwydd, tawelwch meddwl a bod yn ofalgar eu cyfuno a'u bod yn gytbwys.

Yn gyffredinol mae gan berson ifanc sy'n iach yn emosiynol allu i
-ddatblygu yn seicolegol, emosiynol, cymdeithasol, creadigol ac yn ysbrydol, i ddod yn rhyngddibynnol.
-defnyddio a mwynhau unigedd
-dibyniaeth
-sefydlu, datblygu a chynnal perthnasoedd sy'n bodloni'r ddwy ochr
-dod yn ymwybodol o eraill a dangos empathi tuag atynt
-chwarae a dysgu
-adnabod a rheoli teimladau cryfion gan gynnwys rhwystredigaeth a dicter
-datblygu gwytnwch, wynebu a datrys problemau a dysgu oddi wrthynt.

Mae iechyd meddyliol yn ei hanfod yn ymwneud â lles emosiynol. Tuedda'r ymadroddion iechyd emosiynol, lles emosiynol ac iechyd meddwl i gael eu defnyddio yn gydgyfnewidiol. Mae gennym ni i gyd iechyd meddwl, a gall hwn newid – weithiau gallwn fod ag iechyd meddwl da ac ar adegau eraill gall ein hiechyd meddwl fod yn wael.

Gall iechyd meddwl effeithio ar sut mae pobl yn meddwl ac yn teimlo amdanynt eu hunain, pobl eraill a sut maent yn ymdrin â gwahanol ddigwyddiadau. Mae iechyd meddwl hefyd yn cael effaith gref ar iechyd corfforol pobl oherwydd mae'r modd yr ydym yn teimlo ac yn meddwl yn cael dylanwad mawr ar ein hiechyd corfforol.

Mae deg o bethau allweddol y gallwch eu gwneud i sicrhau eich bod yn cadw mor iach â phosibl¹.
-Siarad am eich teimladau
-Cadw'n actif
-Bwyta'n dda
-Cyfyngu ar eich alcohol
-Treulio amser gyda'ch ffrindiau a'ch teulu
-Gofyn am gymorth
-Cymryd egwyl
-Gwneud rhywbeth rydych yn dda am ei wneud
-Bod yn chi eich hun
-Gofalu am eraill

Cliciwch ar y dolennau uchod i gael mwy o wybodaeth am rai o'r mathau mwyaf cyffredin o broblemau iechyd meddwl.

¹ The Mental Health Foundation

Sefydliadau

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.