Gwybodaeth » Iechyd » Camddefnyddio Sylweddau » Toddyddion
- Mae petrol, glud ac erosolau, sy’n cynnwys chwistrelli diarogli a chwistrelli gwallt, hylifau glanhau ac ail-lenwadau nwy tanwyr sigarèts ymhlith y nifer fawr o gynhyrchion sy’n cael eu defnyddio fel sylweddau i roi effaith debyg i alcohol. Byddan nhw’n cael eu mewnanadlu fel arfer.
- Bydd toddyddion yn cael eu sniffian o fag plastig, llawes neu gadach, a bydd rhai defnyddwyr yn rhoi bag plastig dros eu pennau i fewnanadlu mygdarthau’r toddydd. Bydd rhai nwyon yn cael eu chwistrellu’n syth i du ôl y corn gwddf.
- Ymhlith effeithiau mewnanadlu toddyddion mae gwneud i’r defnyddiwr deimlo’n benysgafn a giglan, a gall rhai toddyddion achosi i’r defnyddiwr weld rhithiau.
- Dim ond amser byr y bydd yr effaith yn para felly fe all y defnyddiwr gymryd dosys drosodd a throsodd i wneud i’r effaith bara.
- Ymhlith y risgiau mae:
- Os byddwch chi’n defnyddio toddyddion dros gyfnod hir fe allan nhw niweidio’r ymennydd, yr arennau a’r iau
- Mae yna berygl o fygu os byddwch chi’n rhoi bag plastig dros eich pen
- Mae chwistrellu nwy i du ôl eich corn gwddf yn golygu ei bod yn anodd rheoli’r dos
- Gall defnyddio toddyddion achosi ichi deimlo’n chwydlyd, cyfogi a llewygu
- Mae yna risg ddifrifol o broblemau angheuol â’r galon, ac mae rhai defnyddwyr wedi marw ar ôl sniffian toddydd am y tro cyntaf
- Gall chwistrellu nwy yn syth i’r corn gwddf wneud i’ch corn gwddf chwyddo a bydd hyn yn effeithio ar eich anadlu a fydd, yn ei dro, yn gwneud i’ch calon arafu cymaint nes y gall fod yn beryglus
- Er nad yw’n anghyfreithlon camddefnyddio toddyddion, mae’n anghyfreithlon i siopau yng Nghymru a Lloegr werthu sylweddau ichi os ydyn nhw'n meddwl eich bod chi'n mynd i'w mewnanadlu.
- Mae’n anghyfreithlon gwerthu ail-lenwadau nwy tanwyr sigarèts i unrhyw un dan 18 oed unrhyw le yn y DU.


