Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Camddefnyddio Sylweddau » Cetamin

  • Cyffur sy’n cael ei gynhyrchu yn gyfreithlon yw cetamin, a defnyddir ef fel anaesthetig cyffredinol. Mae’r fersiwn anghyfreithlon o Cetamin ar ffurf powdwr gwyn fel arfer, a bydd hwn yn cael ei sniffian neu ei brynu fel tabled. Enwau eraill arno yw grïn, K, special K, super K neu fitamin K.
  • Er na fydd eich corff yn dod yn gaeth i Cetamin fe allwch chi ddod i ddibynnu arno yn seicolegol.
  • Gall cetamin achosi i’r defnyddiwr deimlo fel pe bai’r meddwl wedi’i wahanu o’r corff ac mae’n effeithio ar eu canfyddiad.
  • Ymhlith y risgiau mae:
    • Peidio â theimlo unrhyw boen felly mae yna berygl o gael eich anafu a pheidio â sylweddoli eich bod chi wedi gwneud niwed i chi’ch hun
    • Pan fydd yn cael ei gymysgu â chyffuriau eraill a/neu alcohol gall achosi pwysedd gwaed uchel ac arwain at ddod yn anymwybodol
    • Pan fydd y dos yn fawr gall yr effaith anaesthetig achosi i'r defnyddiwr farw o fewnanadlu cyfog
    • Ymhlith yr effeithiau eraill mae iselder a phyliau o banig a phroblemau seicolegol
  • Gan mai cyffur presgripsiwn yn unig yw Cetamin, fe allech gael eich erlyn am ei roi i bobl eraill neu ei werthu.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.