Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Camddefnyddio Sylweddau

Mae llawer o resymau pam fod pobl yn defnyddio sylweddau. Mae rhai yn arbrofi tra bo eraill yn eu defnyddio fel ffordd o ymdopi ag anawsterau. Ond, mae’r sylweddau eu hunain yn aml yn datblygu i fod yn anhawster lle gallai’r broblem wreiddiol fod wedi ei datrys neu fynd yn haws gydag amser.

Gall sylweddau cyfreithiol fel alcohol neu dybaco, neu rai anghyfreithlon fel canabis, ecstasi neu gocên effeithio’n ddifrifol ar eich bywyd, gan achosi difrod tymor hir neu hyd yn oed farwolaeth. Pan fo hyn yn mynd allan o reolaeth, mae’r sylwedd fel arfer yn dechrau rheoli’r defnyddiwr. Po fwyaf o sylwedd arbennig y mae’r unigolyn yn ei ddefnyddio, po fwyaf o oddefgarwch y maent yn ei ddatblygu, fel bod angen iddynt gael mwy i gael yr un effaith. Ar wahân i’r gost, gellir effeithio ar bob maes o fywyd unigolyn, o iechyd hyd at berthnasoedd, ysgol neu waith.

Gall rhai sylweddau anghyfreithlon gael effaith ddifrifol ar eich iechyd meddwl. Gall rhai fod yn gaethiwus yn ffisegol, tra bo eraill yn achosi caethiwed seicolegol gyda’r defnyddiwr yn meddwl bod angen iddo ddefnyddio’r sylwedd i deimlo’n iawn. Weithiau dyma pam efallai nad yw pobl yn dymuno rhoi’r gorau i ddefnyddio’r sylweddau neu yn ei chael yn llawer mwy caled i stopio nag yr oeddent wedi dychmygu.

Bydd y tudalennau canlynol a’r safleoedd cysylltiedig yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi am ystod o sylweddau, yn rhoi manylion am eu heffeithiau a ph’run ai ydynt yn gyfreithiol neu yn anghyfreithlon. Defnyddiwch yr wybodaeth i ddarganfod cymaint â phosibl i wneud eich penderfyniadau eich hun a pheidiwch fyth â theimlo bod yn rhaid i chi wneud rhywbeth er mwyn bod yr un fath â phawb arall.

Sefydliadau

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.