Gwybodaeth » Iechyd
Bydd y tudalennau canlynol yn rhoi gwybodaeth ichi am ofalu am eich iechyd a sut i gael help a chyngor pan rydych chi’n pryderu am faterion meddygol neu faterion iechyd, yn amrywio o ‘alergeddau’ i ‘dorheulo’.
Mae yna ragor o fanylion ar wefannau sydd â chysylltau iddyn nhw lle gallwch chi ddod o hyd i fwy o wybodaeth, a llinellau cymorth y gallwch chi eu ffonio os ydych chi’n poeni am broblemau penodol, ac mae’r rhain fel arfer yn gwbl gyfrinachol.
Bydd ceisio cyngor proffesiynol yn aml yn rhoi tawelwch meddwl ichi os ydych chi wedi bod yn meddwl bod rhywbeth yn wir fygythiad i’ch iechyd a chithau wedyn yn cael gwybod nad oes achos i bryderu yn ei gylch a’i fod, yn aml iawn, yn hollol normal.
Mae’n hanfodol trafod pryderon am iechyd cyn gynted â phosib oherwydd, hyd yn oed os oes rhywbeth o'i le, os bydd yn cael ei drin yn fuan, yn y rhan fwyaf o achosion fe fydd pobl yn cael eu hiacháu a byddan nhw’n mynd ymlaen â'u bywydau yn hapus reit.
Mae yna wybodaeth hefyd am ffyrdd iach o fyw ac am bethau i’w hystyried wrth benderfynu ynglyn â smygu, alcohol a chyffuriau. Mae gwybodaeth wedi’i chynnwys am broblemau iechyd meddwl, sef maes y mae llawer o bobl yn ei chael yn anodd siarad amdano.
Fe ddylai’r holl wybodaeth sydd wedi’i darparu ar y wefan yma a’r gwefannau sydd â cysylltau iddyn nhw eich cynorthwyo i wneud penderfyniadau a dewisiadau deallus.
I gael gwybodaeth a chyngor ar yr holl faterion iechyd ewch i www.nhsdirect.nhs.uk
Neu www.nhsdirect.wales.nhs.uk neu ffoniwch y llinell gymorth ar 0845 4647.
Sefydliadau
-
BBC Website
-
youth information
-
Meic
Information, advice and support for your life. Free. Confidential. For you...Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i dy fywyd. Am ddim. Cyfrinachol. I ti.


