Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Gwirfoddoli
Gwirfoddoli yw pan rowch eich amser i wneud rhywbeth dros achos da heb gael eich talu. Gall gwirfoddolwyr helpu mewn llawer o wahanol ffyrdd. Gallwch weithio gyda phlant a phobl ifanc, helpu’r amgylchedd neu edrych ar ôl yr henoed. Mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad enfawr i’w cymunedau ac i gymdeithas.
Mae ar elusennau a sefydliadau eraill yn aml angen cymorth fel y gallant wella bywydau pobl eraill yn y gymuned leol. Gallwch ddewis o blith miloedd o gyfleoedd yng Nghymru, y DU a hyd yn oed dramor.
Mae faint o amser ac ymrwymiad a roddwch i wirfoddoli yn fater i chi. Mae rhai pobl yn gwirfoddoli ar sail wythnosol, mae eraill yn gwirfoddoli am wythnosau, misoedd, ac mae rhai pobl yn gwirfoddoli flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gyfarfod pobl newydd, ennill sgiliau a phrofiad a gall roi syniad da i chi am sut un yw swydd neu yrfa arbennig cyn i chi gael gwaith taledig. Gall fod yn ffordd dda o lenwi rhan o flwyddyn i ffwrdd ac mae’n beth ffantastig i’w gael ar eich CV os ydych wedi rhoi eich amser rhydd i wneud rhywbeth gwerth chweil.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gallwch ddechrau drwy gyfrifo faint o oriau sydd gennych i’w cynnig. Yna gallwch ddechrau meddwl am ba fath o wirfoddoli yr hoffech ei wneud a pha sgiliau a gwybodaeth y gallech eu cynnig. Mae llawer o gyfleoedd ar gael yn dibynnu ar ble rydych yn byw a faint o amser sydd gennych i’w roi.
Edrychwch ar rai o’r dolennau isod i ddarganfod mwy.
Sefydliadau
-
Volunteering Wales
information on volunteering and opportunities in your local area
-
DO IT
information on volunteering and database of opportunities - search for opportunities in the UK
-
Millennium Volunteers
volunteering opportunities for 16-24 year olds
-
Community Service Volunteers
volunteering opportunities in your local community
-
Time Bank
information on volunteering - lists all the major volunteering organisations with opportunities in the UK and abroad
-
Platform2
is a global volunteering experience for 18-25 year olds funded by the Department for International Development and run by Christian Aid, Islamic Relief and BUNAC
-
The National Centre for Volunteering
links to many organisations offering voluntary work including overseas
-
Wales Council for Voluntary Action
These pages are designed for those with responsibility for managing volunteers or for anyone with an interest in volunteering issues.
-
TheSite - Volunteering
Get the lowdown on some questions about volunteering.


1 Comment – Postiwch sylw
RedCrossNorthWales
Rhoddwyd sylw 2 mis yn ôl - 16th March 2012 - 16:45pm
The British Red Cross is looking for volunteers in Flintshire. You must be over the age of 15 to volunteer for us. We have lots of opportunities in the following areas
First Aid
Health and Social Care
Youth and Schools
Fundraising
etc
Please get in touch, ring 01745 828330, e-mail volunteering_nwales@redcross.org.uk or TEXT "ENQUIRY PACK" followed by your name and address to: 07917755839
Or apply online at www.redcross.org.uk/getinvolved/volunteer