Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Diweithdra
Gall diweithdra fod yn hynod o anodd, yn arbennig os ydych wedi bod allan o waith am gyfnod hir. Mae ymdrechu i dalu am bethau, bod â dim byd i lenwi eich amser a dim arian ychwanegol i wneud pethau yn ddiflas ac yn rhwystredig.
Pan ydych allan o waith, mae’n bwysig bod yn ofalus gyda’ch arian a darganfod a oes gennych hawl i unrhyw fudd-daliadau neu gymorth wrth chwilio am swydd.
Os ydych yn ddi-waith gallwch hawlio rhai budd-daliadau yn dibynnu ar eich oed a’ch amgylchiadau.
Os ydych yn chwilio am waith, ond yn ddi-waith neu yn gweithio llai na 16 awr yr wythnos, efallai y gallech hawlio Lwfans Ceisio Gwaith (LCG) sy’n dâl a roddir bob pythefnos i’r rhai hynny sy’n chwilio am swydd.
Mae cynlluniau fel y Fargen Newydd i Bobl Ifanc (18 – 24 oed) yn golygu y gall pobl sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith gael gweld ymgynghorydd personol, a’i waith ef yw eich helpu i gael swydd.
Os ydych yn 16 neu 17 oed efallai y gallech gael LCG yn seiliedig ar incwm am gyfnod byr. Mae hyn yn dibynnu ar eich sefyllfa bersonol, er enghraifft os ydych yn byw i ffwrdd oddi wrth eich rhieni, eich bod yn gyfrifol am blentyn neu y byddai’n anodd iawn i chi fyw heb LCG.
I ddarganfod os ydych yn gymwys am LCG ewch i’ch canolfan waith leol i gyfarfod ag ymgynghorydd.
Gall gymryd peth amser i’ch cais gael ei brosesu felly mae’n syniad da mynd at y Ganolfan Waith cyn gynted ag yr ydych yn ddi-waith i ddarganfod a oes gennych hawl i unrhyw gymorth ariannol. Mae hyn yn bwysig iawn os oes gennych rent a biliau i’w talu, neu os oes gennych blant.
Gall y Ganolfan Waith eich helpu i chwilio am waith, eich helpu i ddod o hyd i waith sy’n addas i chi ac mae yno gronfa ddata o swyddi sydd ar gael y gallwch chwilio drwyddynt.
Gallech hefyd fynd at wasanaeth cynghori fel Gyrfaoedd Cymru a fydd â rhestrau o swyddi sydd ar gael ac a all roi cyngor am fynd yn ôl i’r gwaith.
Sefydliadau
-
Direct Gov - Benefits for young people
Public services all in one place
-
The Site - Benefits and Tax
Information for young people on benefits and tax


