Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Dechrau gwaith » Ymsefydlu
- Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n dechrau swydd newydd yn mynd trwy broses a elwir yn ymsefydlu.
- Mae ymsefydlu’n golygu darparu gwybodaeth a ffeithiau i weithiwr newydd i’w helpu i ymgynefino â’i swydd newydd ac i ddeall sut mae’r cwmni’n cael ei drefnu a’i weithredu, gan gynnwys unrhyw reolau a rheoliadau.
Y broses ymsefydlu
- Efallai na fydd y broses ymsefydlu’n ffurfiol iawn.
- Mewn sawl sefydliad, bydd rheolwr neu oruchwyliwr y gweithiwr newydd yn cynnal y broses yn anffurfiol, o ddydd i ddydd.
- Yn aml, bydd y broses ymsefydlu’n dechau cyn i’r gweithiwr hyd yn oed ddechrau yn y swydd. Hynny yw, bydd y sefydliad yn darparu deunydd fel rhan o'r 'pecyn gwybodaeth' cychwynnol, neu gyda'r gwahoddiad i fynd am gyfweliad, neu gyda'r llythyr sy'n cynnig y swydd.
- Pan fydd gweithiwr yn dechrau yn y swydd, rhan helaeth o’r broses ymsefydlu yw cyfarfod â chydweithwyr newydd a siarad â nhw, gwylio gweithgareddau a gofyn cwestiynau.
- Mae’r broses ymsefydlu hefyd yn gyfle i edrych ar unrhyw anghenion posib sydd gennych chi o ran hyfforddiant.
- Os oes grŵp o weithwyr newydd yn cael ei recriwtio ar yr un pryd, mae’n bosib y byddan nhw'n mynd i sesiynau ymsefydlu grŵp fydd yn edrych ar bynciau sy’n gyffredin – gall hyn gynnwys trafodaethau, fideos a chyflwyniadau â sleidiau.
- Efallai y byddwch chi’n cael peth gwybodaeth yn ysgrifenedig, er enghraifft llawlyfr y cwmni, sy’n trafod agweddau pwysig ar drefniadaeth y cwmni a sut mae’n gweithio.
Pwy sy’n gyfrifol am y broses ymsefydlu?
- Efallai fod nifer o bobl yn rhan o gynllunio a darparu’r rhaglen ymsefydlu.
- Mewn cwmni bach, efallai mai’r swyddog personèl, y rheolwr neu’r goruchwyliwr sy’n gyfrifol.
- Bydd llawer o gwmnïau hefyd yn defnyddio system 'gyfeillio’, pan fydd gweithiwr profiadol yn gyfrifol am gynorthwyo’r gweithiwr newydd â’r holl gwestiynau all godi o ddydd i ddydd, er enghraifft cyfleusterau’r ffreutur, cyflwyno cydweithwyr eraill, egluro gosodiad yr adeilad ac ati. Byddan nhw’n delio â’r rhain mewn modd anffurfiol, wrth iddyn nhw godi.
- Efallai y bydd sefydliad mwy yn defnyddio galluoedd a sgiliau llawer o bobl. Gallai’r rhain gynnwys:
- y rheolwr personl neu’r rheolwr adnoddau dynol. Mae’n debygol mai mynd trwy’r amodau a thelerau, llenwi unrhyw waith papur angenrheidiol ac efallai cynnig trosolwg o drefniadaeth y cwmni fydd eu rôl nhw
- y swyddog iechyd a diogelwch, yn enwedig os oes angen gweithdrefnau diogelwch penodol neu ddillad gwarchodol ac ati. Bydd y person yma'n cynorthwyo'r cyflogwr i roi darpariaethau'r ddeddf iechyd a diogelwch ar waith
- y swyddog hyfforddi, a fydd yn amlinellu unrhyw raglenni hyfforddi sydd eisoes ar waith
- y rheolwr llinell neu reolwr yr adran. Fel arfer, bydd y person yma’n cynnig croeso mwy lleol i’r sefydliad ac yn esbonio sut mae’r adran benodol honno’n rhan o’r sefydliad yn ei gyfanrwydd, ac yn cynnal y rownd gyntaf o gyflwyniadau i'r adran
- y goruchwyliwr, a fydd â’r diddordeb a’r cyfrifoldeb pennaf am wneud i’r gweithiwr newydd deimlo’n gartrefol a sicrhau ei fod yn effeithiol cyn gynted â phosib. Fel rheol, y goruchwyliwr sy’n gyfrifol am wirio beth sydd wedi’i drafod, beth sydd angen ei wneud, ac unrhyw bwyntiau penodol sydd o bosib angen eu hegluro ymhellach
- y cynrychiolydd undeb llafur neu gynrychiolydd y gweithwyr, a chynrychiolydd diogelwch, i egluro'u rôl.


