Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Cael swydd » Cyfweliadau

  • Mae'r rhan fwyaf o bobl yn teimlo'n nerfus wrth feddwl am gyfweliad, ond gall paratoi eich helpu i oresgyn hyn.

Cyn y cyfweliad

  • Meddyliwch am y swydd rydych chi wedi ymgeisio amdani - beth sy'n eich gwneud chi'n iawn ar ei chyfer?
  • Sut allwch chi gysylltu'ch sgiliau, eich profiad a'ch cymwysterau i'r swydd arbennig honno.
  • Ceisiwch ddysgu am y cwmni - darllenwch unrhyw wybodaeth y gallwch ddod o hyd iddi am y cwmni ac, os oes ganddyn nhw wefan, edrychwch arni.
  • Ceisiwch gael digonedd o gwsg y noson gynt - nid yw dylyfu gên mewn cyfweliad yn beth da!
  • Ceisiwch feddwl am gwestiynau y gallen nhw eu gofyn ichi, a'r atebion y byddech chi'n eu rhoi.
  • Darllenwch drwy'ch cais a/neu'ch CV cyn mynd i mewn i'r cyfweliad, a byddwch yn barod i ateb cwestiynau ynghylch unrhyw beth sydd ynddyn nhw.
  • Paratowch gwestiynau i'w gofyn yn y cyfweliad, gan fod hyn yn dangos eich bod chi wedi meddwl am y swydd, a'r hyn mae'n ei olygu.
  • Ystyriwch yr hyn rydych chi am ei wisgo ymhell o flaen llaw, a rhowch bopeth yn barod y diwrnod cynt.
  • Cynlluniwch eich siwrnai er mwyn cyrraedd mewn da bryd.
  • Os ydych chi'n cael eich gohirio'n anochel - ffoniwch i roi gwybod iddyn nhw.
  • Diffoddwch eich ffôn symudol cyn mynd i mewn.

Yn ystod y cyfweliad

  • Gwenwch, cadwch gyswllt llygad a cheisiwch fod yn hyderus - ond peidiwch â bod yn rhy hy.
  • Peidiwch ag ysmygu na chnoi gwm.
  • Byddwch yn naturiol, a cheisiwch ymddangos yn gyfeillgar ac wedi ymlacio.
  • Ceisiwch edrych fel bod diddordeb gennych chi, hyd yn oed os nad oes!
  • Siaradwch yn eglur a cheisiwch osgoi atebion syml 'ie' a 'na'.
  • Meddyliwch cyn ateb
  • Efallai y gwnewch chi hyd yn oed fwynhau'r profiad!

Ar ôl y cyfweliad

  • Cofiwch, yr eiliad rydych chi'n gadael, does dim byd arall gallwch chi ei wneud hyd nes eu bod nhw'n cysylltu â chi.
  • Mater o aros yw hi, a bod yn amyneddgar yw'r unig beth allwch chi ei wneud.
  • Os nad ydych chi'n llwyddiannus, cofiwch fod cael eich gwrthod yn rhan o fywyd a does dim angen cosbi'ch hunan amdano. Ceisiwch ddysgu o'r profiad. Nid yw cael eich gwrthod yn golygu'ch bod chi'n dda i ddim.
  • Pan fyddwch chi'n teimlo'n barod, cysylltwch â nhw i gael adborth. Efallai y bydd hyn yn eich helpu i wella at y tro nesaf.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.