Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Cael swydd
Gall chwilio am swydd a chael swydd fod yn anodd yn dibynnu ar ba fath o swydd a ddymunwch, ble y gallwch gael hyfforddiant a pha oriau y gallwch eu gweithio.
Mae llawer o amgylcheddau gwaith ac oriau gwaith gwahanol ar gael. Gall rhai swyddi fod mewn swyddfa, gall rai eraill gynnwys gweithio mewn lleoliad diwydiannol fel ffatri neu weithdy a bydd rhai yn cynnwys gweithio’r tu allan.
Mae’r oriau a weithiwch yn dibynnu ar y math o swydd a wnewch, mae rhai yn ystod y dydd, rhai yn ystod min nos a rhai yn cynnwys gweithio shifftiau gwahanol. Mae rhai cyflogwyr yn cynnig oriau gwaith hyblyg, sy’n golygu y gallwch ddechrau a gorffen ar wahanol adegau o’r dydd, er enghraifft gweithio o 10am tan 6pm. Mae gennych yr hawl i ofyn am oriau gwaith hyblyg, yn arbennig os oes gennych blant i edrych ar eu hôl.
Mae’n bwysig dangos i gyflogwyr posibl mai chi yw’r unigolyn gorau am y swydd, felly os oes gennych sgiliau, cymwysterau a hyfforddiant mae angen iddynt wybod am hyn. Bydd llawer o gyflogwyr yn cynnig hyfforddiant a chymwysterau wrth wneud y swydd, gallai rhai hefyd dalu i chi i fynychu cwrs.
I ymgeisio am swydd, mae gan y rhan fwyaf o gyflogwyr ffurflenni cais y byddant yn gofyn i chi ei llenwi neu byddant yn gofyn i chi am CV. Mae ffurflenni cais yn gofyn am fanylion eich addysg, profiad gwaith a pha sgiliau sydd gennych. Mae CV yn debyg iawn, ond mae’n rhywbeth yr ydych chi yn ei gynhyrchu yn hytrach na ffurflen gais. Mae’n syniad da cynhyrchu CV beth bynnag, gan ofalu ei fod wedi ei drefnu yn dda, yn hawdd i’w ddeall ac nad oes unrhyw gamgymeriadau sillafu na gramadeg ynddo.
Yn yr adran hon cewch gyngor am sut a ble i chwilio am swyddi, sut i drefnu eich CV a sut i wneud argraff mewn cyfweliadau.



2 Comments – Postiwch sylw
299
Rhoddwyd sylw 4 mis yn ôl - 19th September 2011 - 15:04pm
hiiiiiiiiiiiii
Sam (Sub-Editor)
Rhoddwyd sylw 4 mis yn ôl - 19th September 2011 - 15:33pm
Hello 299!