Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Bod mewn Cyflogaeth » Iechyd a Diogelwch

  • Mae yna gyfreithiau a rheoliadau sy'n diogelu'ch iechyd a'ch diogelwch tra'ch bod yn y gwaith.
  • Mae gan bob cyflogwr ddyletswydd statudol i ofalu am iechyd a diogelwch ei holl weithwyr.
  • Er enghraifft, mae yna reolau sy'n ymwneud â:
    • glendid
    • sŵn
    • peiriannau
    • codi a chario pwysau trwm
    • sylweddau peryglus
    • toiledau
    • cyfleusterau ymolchi
    • dŵr yfed
    • cadeiriau
    • cyfleusterau cymorth cyntaf
    • tymereddau
    • cyfrifiaduron
    • oriau gweithio a seibiannau. Mae gan bron iawn bob gweithiwr hawl i beidio â gorfod gweithio mwy na 48 awr yr wythnos, ar gyfartaledd. Ni chaiff gweithwyr nos weithio am fwy nag wyth awr ar gyfartaledd, mewn unrhyw gyfnod o 24 awr. Mae gan weithwyr 18 oed a hŷn (gweithwyr sy'n oedolion) hawl i gael un diwrnod o'r gwaith bob wythnos. Mae gan weithwyr rhwng 16 ac 18 oed (gweithwyr yn eu glasoed) hawl i gael dau ddiwrnod o'r gwaith bob wythnos. Mae gan weithwyr sy'n oedolion hawl i gael un ar ddeg awr yn olynol o seibiant y dydd, ac o leiaf 20 munud o egwyl gorffwys os yw eu diwrnod gwaith yn hwy na chwe awr. Mae gan weithwyr yn eu glasoed hawl i gael 12 awr yn olynol o seibiant y dydd, ac o leiaf 30 munud o egwyl gorffwys os ydyn nhw'n gweithio mwy na phedair awr a hanner.
  • Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yw'r sefydliad sy'n gyfrifol am orfodi cyfraith iechyd a diogelwch.
  • Os ydych chi'n pryderu am iechyd neu ddiogelwch yn y gwaith, cysylltwch â chynrychiolydd iechyd a diogelwch yn eich gweithle, neu'r swyddog personél.
  • Yn ôl y gyfraith, mae'ch cyflogwr yn gyfrifol am roi gwybod ichi am y camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau'ch iechyd a'ch diogelwch.
  • Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid ichi hefyd helpu'ch cyflogwr i ddarparu amgylchedd gweithio diogel.

Risgiau i weithwyr ifanc

  • Mae'n ofynnol dan reoliadau a gyflwynwyd ym mis Mawrth 1997 (Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Pobl Ifanc) 1997) bod cyflogwr yn cynnal asesiad risg cyn cyflogi rhywun ifanc sy'n iau na 18 oed.
  • Ystyrir bod gweithwyr ifanc yn enwedig yn agored i risg oherwydd eu diffyg profiad, y posibilrwydd nad ydyn nhw'n ymwybodol o risgiau sy'n bodoli neu risgiau posib i'w hiechyd a'u diogelwch, a'r posibilrwydd eu bod nhw'n anaeddfed.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.