Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Bod mewn Cyflogaeth » Gwerthuso
Beth yw Gwerthusiadau?
- Mae gwerthusiadau hefyd yn cael eu galw'n adolygiadau perfformiad staff neu'n arfarniadau staff.
- Prif amcanion gwerthusiad yw adolygu perfformiad a photensial gweithiwr.
- Eich goruchwyliwr neu'ch rheolwr llinell fydd yn cynnal y rhan fwyaf o werthusiadau. Mae'r rhan fwyaf o werthusiadau'n cael eu cynnal unwaith y flwyddyn, ond efallai fod gwiriad(au) cynnydd hefyd yn cael eu cynnal er mwyn cadw llygad ar sut mae pethau'n mynd.
- Fel rheol, bydd gwerthusiad yn cynnwys trafodaeth amdanoch chi a sut rydych chi'n perfformio yn eich swydd gyfredol, yr hyn rydych chi wedi'i wneud yn dda a'r hyn y gellid gwella arno, ac unrhyw help neu gefnogaeth rydych chi'n teimlo sydd ei angen arnoch chi i wneud eich swydd yn well.
- Efallai y bydd gofyn ichi lenwi ychydig o waith papur cyn mynd i'r gwerthusiad. Yn dilyn y gwerthusiad, fel rheol bydd eich goruchwyliwr neu'ch rheolwr llinell yn rhoi cofnod ysgrifenedig ichi sy'n nodi'r hyn a drafodwyd ac y cytunwyd arno yn y gwerthusiad, gan gynnwys unrhyw anghenion hyfforddi sydd gennych chi o bosib.
- Gall gwerthusiadau fod yn gysylltiedig â gwobrwyo staff, er enghraifft talu bonws.
- Gall gwerthusiadau helpu cyflogwyr a gweithwyr trwy wella perfformiad yn y swydd, trwy ei gwneud hi'n haws i nodi cryfderau a gwendidau a thrwy edrych ar addasrwydd gweithiwr ar gyfer hyfforddiant, datblygiad neu ddyrchafiad.


