Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Bod mewn Cyflogaeth » Gorfodi Hawliau yn y Gweithle

  • Os oes gennych chi broblem gyda'ch cyflogwr, fe ddylech chi fel arfer geisio'i datrys yn anffurfiol yn gyntaf. Fel rheol, bydd y broses yn dechrau trwy drafod eich problemau â'ch rheolwr llinell neu'ch goruchwyliwr.
  • Os nad yw hyn yn gweithio, neu os ydych chi'n cael trafferth siarad â'ch rheolwr llinell neu'ch goruchwyliwr, neu os ydych chi'n teimlo mai gyda nhw mae'ch problem, yna gallwch chi hefyd drafod pethau â'ch Cynrychiolydd Undeb neu Stiward Undeb os ydych chi'n aelod o Undeb (gwelwch ein herthygl ar Undebau).
  • Os nad yw hyn yn gweithio, dylech chi ddilyn y weithdrefn gwyno arbennig tri cham y mae'n rhaid i bob cyflogwr ei chael yn ôl y gyfraith. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid ichi:
    • 1. anfon datganiad ysgrifenedig at eich cyflogwr yn nodi'ch cwyn, a rhoi o leiaf 28 diwrnod iddyn nhw ymateb
    • 2. cael cyfarfod gyda'ch cyflogwr er mwyn trafod eich cwyn
    • 3. apelio yn erbyn penderfyniad eich cyflogwr os nad ydych chi'n hapus â'r penderfyniad hwnnw.
  • Os ydych chi wedi dilyn y weithdrefn hon, a chithau'n dal i fod yn anhapus â'r canlyniad, gallwch chi fynd â'ch achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth. Dylech chi fod yn ymwybodol y gall tribiwnlys cyflogaeth benderfynu y bydd yn lleihau unrhyw iawndal mae'n ei ddyfarnu ichi, os nad ydych chi wedi dilyn y weithdrefn gwyno'n gywir i ddechrau.
  • Mae tribiwnlysoedd cyflogaeth (tribiwnlysoedd diwydiannol yng Ngogledd Iwerddon) yn gyrff cyfreithiol sy'n delio â chwynion ynghylch hawliau cyflogaeth. Mae tribiwnlys yn cynnwys cadeirydd sydd â chymhwyster cyfreithiol a dau unigolyn arall sy'n cynrychioli ochr y cyflogwr ac ochr y gweithiwr o'r diwydiant.
  • Gall tribiwnlys ddelio â phroblemau'n ymwneud â'r canlynol:
    • datganiad ysgrifenedig o amodau a thelerau
    • hawliau mamolaeth
    • hawliau gwyliau
    • datganiad cyflog manwl
    • cyflog sydd heb ei dalu
    • gwahaniaethu ar sail rhyw/cyflog cyfartal
    • gwahaniaethu ar sail hil
    • gwahaniaethu ar sail anabledd
    • gwahaniaethu ar sail oed
    • gwahaniaethu ar sail tueddfryd rhywiol
    • gwahaniaethu ar sail crefydd neu gred
    • rhai problemau iechyd a diogelwch
    • diswyddo annheg a swydd yn cael ei dileu yn annheg.
  • Mewn rhai achosion bydd yn rhaid ichi gyflwyno cwyn ysgrifenedig i'g ch cyflogwr cyn y cewch chi gyflwyno cais i dribiwnlys cyflogaeth.
  • Os ydych chi'n mynd â chwyn gerbron tribiwnlys cyflogaeth (tribiwnlys diwydiannol yng Ngogledd Iwerddon), efallai y byddwch chi mewn perygl o golli'ch swydd.
  • Mae yna gyfyngiadau amser o ran pryd mae'n rhaid ichi fynd ag achos gerbron tribiwnlys. Mae'r rhain yn amrywio, ond yn gyffredinol mae'n rhaid cyflwyno achos sy'n ymwneud â diswyddiad annheg/didynnu symiau anghyfreithlon o'ch cyflog/gwahaniaethu cyn pen tri mis o'r diwrnod olaf a weithiwyd, o ddiwrnod y didyniad olaf neu o ddyddiad y weithred o wahaniaethu. Efallai y bydd y cyfyngiad amser yma'n cael ei ymestyn os ydych chi wedi cyflwyno cwyn ysgrifenedig i'ch cyflogwr.
  • Fel rheol, mae'n rhaid gwneud cais am dâl dileu swydd cyn pen chwe mis o adael y swydd. Felly, os ydych chi'n ystyried mynd â chais gerbron tribiwnlys cyflogaeth, mae'n hynod bwysig eich bod chi'n cael help oddi wrth gynghorydd profiadol cyn gynted â phosib, mewn Swyddfa Cyngor ar Bopeth er enghraifft (gwelwch y cyswllt isod).

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.