Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Twrnameintiau a Chystadlaethau Rhyngwladol » Y Gemau Olympaidd

  • Mae’r Gemau Olympaidd yn gyfres o ddigwyddiadau lle y gall athletwyr gorau’r byd ddangos eu medr a’u dygnwch mewn nifer o gystadlaethau
  • Dyma ddigwyddiad chwaraeon lluosog mwyaf y byd
  • Mae’r Gemau wedi’u cynnal bob pedair blynedd ers 1896 yn ystod yr haf
  • Mae bron pob gwlad yn anfon tïm o athletwyr dethol i gystadlu
  • Mae’r Gemau’n cael eu cynnal mewn gwlad wahanol bob tro, ac mae nifer o wledydd yn gwneud cais i gynnal y digwyddiad
  • Mae’r gystadleuaeth yn dod â llawer o arian a chyhoeddusrwydd i’r wlad lle y cynhelir y Gemau
  • Dyfeisiwyd y Gemau Olympaidd gan yr Hen Roegiaid
  • Ei nod yw hybu cyfeillgarwch rhwng gwledydd
  • Mae gemau Olympaidd yn cynnwys y canlynol:– 
    • athletau
    • gymnasteg
    • seiclo
    • acwateg
    • badminton
    • pêl–fasged
    • ffensio
    • pêl–law
    • pêl–droed
    • rhwyfo
    • hwylio
    • saethu
    • taekwondo
    • tenis
    • codi pwysau
    • reslo
    • hoci
    • judo
    • saethyddiaeth
    • triathlon
    • pêl–foli
    • tenis bwrdd
    • pentathlon
    • paffio/bocsio
    • marchogaeth
  • Medal aur Olympaidd yw’r anrhydedd fwyaf y gall athletwr neu chwaraewr proffesiynol obeithio ei ennill yn eu gyrfa
  • Mae medalau’n cael eu dyfarnu i ymgeiswyr sy’n dod yn gyntaf, yn ail ac yn drydedd yn eu camp. Rhoddir medal aur ar gyfer y cyntaf, arian ar gyfer yr ail ac efydd ar gyfer y trydedd.

Y Seremoni Agoriadol

  • Mae’r Gemau Olympaidd yn agor gyda seremoni swyddogol lle y codir baner genedlaethol y wlad sy’n cynnal y gemau, a chaiff ei hanthem genedlaethol ei pherfformio
  • Mae’r seremoni’n cynnwys paredau gan y cenhedloedd sy’n cystadlu, lle y bydd athletwyr yn gorymdeithio i mewn i’r stadiwm fesul gwlad
  • Mae un athletwr/wraig anrhydeddus o bob gwlad yn cael cario baner ei (g)wlad, gan arwain gweddill yr athletwyr o’r wlad honno
  • Yn draddodiadol, Gwlad Groeg sy’n gorymdeithio’n gyntaf, a’r wlad sy’n cynnal y gemau sy’n dod yn olaf
  • Ar ôl i’r cenhedloedd i gyd fynd i mewn i’r stadiwm, mae llywydd Pwyllgor Trefnu’r Gemau Olympaidd o’r wlad honno yn gwneud araith. Dilynir hyn gan araith gan lywydd yr IOC, sydd yn ei dro yn cyflwyno pennaeth y wladwriaeth lle y cynhelir y digwyddiad i agor y Gemau’n swyddogol

Y Fflam Olympaidd

  • Uchafbwynt y seremoni agoriadol yw cynnau’r Fflam Olympaidd
  • Mae’r Fflam Olympaidd yn dân sy’n cael ei gadw i losgi trwy gydol y Gemau Olympaidd, a dyma symbol o’r Gemau. Mae’n cynrychioli gobaith a dygnwch diderfyn yr athletwyr
  • Mae’r Fflam Olympaidd yn cael ei gynnau yn y ddinas lle y dechreuodd y Gemau – sef Olympia yng Ngwlad Groeg – a chaiff ei gludo i’r ddinas sy’n cynnal y gemau gan redwyr sy’n cario’r Tortsh Olympaidd mewn relái
  • Fel arfer, mae’r rhedwr olaf yn athletwr enwog sy’n rhedeg i mewn i’r stadiwm gyda’r tortsh yn ystod y Seremoni Agoriadol ac yn cynnau’r Fflam Olympaidd ym mhair y stadiwm

Y Seremoni Cau

  • Mae’r Gemau’n dod i ben gyda seremoni cau sy’n nodi diwedd y digwyddiad ac yn edrych ymlaen tuag at yr un nesaf
  • Mae tair baner genedlaethol yn cael eu codi wrth i’r anthemau cenedlaethol cael eu chwarae – baner Gwlad Groeg, baner y wlad lle y cynhaliwyd y Gemau, a baner y wlad fydd yn cynnal y Gemau nesaf
  • Mae pobl sy’n dal baneri yn gorymdeithio i mewn i’r stadiwm, ond mae’r athletwyr yn cerdded y tu ôl iddyn nhw heb wahaniaethu o ran cenedligrwydd
  • Caiff y Fflam Olympaidd ei ddiffodd wrth i’r anthem Olympaidd gael ei chwarae, ac mae’r Faner Olympaidd a godwyd yn ystod y seremoni agoriadol yn dod i lawr, ac yn cael ei chario allan o’r stadiwm
  • Bydd y Gemau Olympaidd nesaf yn cael eu cynnal yn Beijing, Tsieina yn 2008, ac yn Llundain yn 2012

A wyddoch chi…?

  • Mae’r cofnodion cyntaf o ddathlu’r Gemau Olympaidd yn yr Hen Roeg yn dod o 776 CC, ond roedd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn gynharach o lawer na hynny
  • Roedd yr Hen Roegiaid yn credu’n gryf mewn cystadlu ac roedd pob agwedd ar fywyd yn seiliedig ar yr egwyddor hon. Un o anrhydeddau mwyaf bywyd oedd bod yn fuddugol yn Olympia, ac felly yr unig wobr ar y pryd oedd torch olewydden
  • Cafodd enillwyr y Gemau yn yr Hen Roeg eu mawrygu mewn cerddi a cherfluniau

Gemau Olympaidd y Gaeaf

  • Mae Gemau Olympaidd y Gaeaf, a gynhaliwyd am y tro cyntaf yn 1924, yn gyfwerth â’r Gemau Haf, er bod y chwaraeon yn digwydd ar iâ ac eira.
  • Mae Gemau Olympaidd y Gaeaf yn cael eu cynnal bob pedair blynedd, ond ar adeg wahanol i Gemau Olympaidd yr Haf
  • Mae chwaraeon Olympaidd y Gaeaf yn cynnwys:–
    • car–lusg (bob–sleigh)
    • cyrlio
    • hoci iâ
    • sglefrio
    • sgïo
    • luge
    • biathlon
    • Bydd Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 yn cael eu cynnal yn Vancouver, Colwmbia Prydeinig yng Nghanada

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.