Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Twrnameintiau a Chystadlaethau Rhyngwladol » Rali Cymru PF
- Rali Cymru Prydain Fawr yw cymal Prydeinig Pencampwriaeth Rali’r Byd
- Mae Pencampwriaeth Rali’r Byd yn gyfres o ralïau dros y byd i gyd sy’n digwydd bob blwyddyn, ac yn gorffen gyda gyrrwr buddugol a chwmni ceir buddugol
- Cafodd y cymal Prydeinig ei gynnal yng Nghymru am y tro cyntaf yn 2005, gan ddisodli Rali’r RAC. Mae gan Gymru’r contract i gynnal y cymal Prydeinig hyd at 2011
- Trwy gynnal y cymal Prydeinig yng Nghymru nes 2011, credir y bydd hyn yn werth tua £40 miliwn i economi Cymru
- Pencampwriaeth Rali’r Byd yw’r ail ddigwyddiad mwyaf ei fri ym maes chwaraeon ceir yn y byd
- Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ar ffyrdd cul yn y goedwig ac yn wlad o Gaerdydd i Abertawe, Canolfan Ralio Abertawe yn Felindre, a Stadiwm y Mileniwm
- Fel arfer mae’r tywydd yn gyfnewidiol – o law, cenllysg ac eira i heulwen. Daw’r ffyrdd yn arbennig o fwdlyd a llithrig pan fo’r tywydd yn wlyb, ac mae hyn yn golygu bod Rali Cymru yn dwrnamaint rhyngwladol anodd iawn
A wyddoch chi fod�
- Pencampwriaeth gyntaf Rali’r Byd wedi’i chynnal yn 1973
- Rali Cymru PF yw digwyddiad mwyaf y flwyddyn ym myd chwaraeon ym Mhrydain, a rhaid wrth 5,000 o wirfoddolwyr a marsialyddion. Mae’n denu o leiaf hanner miliwn o ymwelwyr


