Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Twrnameintiau a Chystadlaethau Rhyngwladol » Cwpan Pêl Droed y Byd
- Cwpan Pêl–droed y Byd yw’r gystadleuaeth bwysicaf yn y byd ar gyfer pêl–droed rhyngwladol
- Mae mwy o bobl yn y byd yn gwylio’r digwyddiad hwn nag unrhyw ddigwyddiad chwaraeon arall
- Caiff ei drefnu gan FIFA, sef prif gorff llywodraethu pêl–droed y byd
- Caiff Cwpan y Byd ei gynnal bob pedair blynedd, ac mae’n rhaid i dimoedd ymgeisio trwy broses sy’n para am dair blynedd
- Mae’r broses ymgeisio yn cynnwys twrnameintiau sy’n cael eu cynnal o fewn chwe ardal gyfandirol FIFA
- Mae FIFA yn rhoi nifer penodol o leoedd i bob ardal gyfandirol
- Mae timoedd yn yr ardaloedd hynny’n chwarae yn erbyn ei gilydd i benderfynu pwy fydd yn cael y lleoedd hyn i gystadlu yng Nghwpan y Byd
- Mae tïm y wlad lle y cynhelir y gystadleuaeth yn cael lle yn awtomatig
- Mae’r timoedd sydd wedi mynd trwodd yn cystadlu yn nhwrnamaint Cwpan y Byd yn y wlad sy’n cynnal y gystadleuaeth
- Fel arfer, mae 32 o dimoedd yn cymhwyso ac yn cystadlu yng Nghwpan y Byd
- Mae’r wlad sy’n cynnal y gystadleuaeth yn defnyddio mwy nag un stadiwm fel arfer Mae enillwyr Cwpan y Byd yn cael tlws Cwpan y Byd FIFA, ac yn cael eu cydnabod yn bencampwyr y byd pêl–droed
- Bydd Cwpan Pêl–droed y Byd yn cael ei gynnal yn yr Almaen yn 2006, ac yn Ne Affrica yn 2010.
A wyddoch chi�
- Cynhaliwyd Cwpan y Byd yn Ffrainc yn 1998 a gwnaeth 37 miliwn o bobl ei wylio, gan gynnwys 1.3 miliwn ar gyfer y gêm derfynol yn unig
- Aeth mwy na 2.7 miliwn o bobl i weld y 64 gêm yn stadia Ffrainc
- Dechreuodd Cwpan y Byd yn 1930 a dim ond saith gwlad sydd wedi ennill –
- Brasil – pum gwaith
- Yr Almaen – tair gwaith
- Yr Eidal – tair gwaith
- Uruguay – dwywaith
- Yr Ariannin – dwywaith
- Ffrainc – unwaith
- Lloegr – unwaith
- Enillodd Lloegr Gwpan y Byd yn 1966 yn y gêm derfynol yn erbyn Gorllewin yr Almaen yn Stadiwm Wembley. Aeth y Frenhines a’r Tywysog Phillip i’r gêm, gyda 93,000 o wylwyr eraill yn y stadiwm.
- Tlws Jules Rimet oedd tlws gwreiddiol cwpan y byd, a gafodd ei enwi ar ôl y Ffrancwr a Llywydd FIFA, Jules Rimet, a basiodd bleidlais yn 1929 i ddwyn timoedd pêl–droed cenedlaethol cryfaf y byd ynghyd i gystadlu am y teitl Pencampwyr y Byd
- Ychydig cyn Gêm Derfynol Cwpan y Byd yn Lloegr yn 1966, cafodd tlws Jules Rimet ei ddwyn yn ystod arddangosiad cyhoeddus yn Westminster Central Hall. Daethpwyd o hyd iddo saith niwrnod yn ddiweddarach, wedi’i lapio mewn papur newydd o dan berth ar waelod gardd yn Ne Llundain, gan gi o’r enw "Pickles"
Rhoddwyd cwpan Jules Rimet i Frasil yn 1970 ar ôl iddyn nhw ennill y tlws am y drydedd waith, a phenderfynodd FIFA y gallen nhw ei gadw - Ar hyd y blynyddoedd, mae’r broses ymgeisio wedi newid. Doedd dim proses ymgeisio o gwbl yn 1930, ond erbyn 2006 mae’r broses hon yn para tair blynedd. Related Topics (English): Football, Golf, Sports Gambling, Sports Medicine, Europe for Visitors


