Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Dwr » Syrffio
- Dim ond os ydych yn nofwr hyderus y dylech roi cynnig ar syrffio
- Gall y llanw fod yn gyflym a’r dŵr yn annisgwyl, felly mae’n bwysig i chi allu nofio
- Mae syrffio’n dod yn gamp ffasiynol iawn, yn enwedig ymhlith pobl ifanc
- Mae llawer o fannau syrffio poblogaidd dros Gymru, felly mae’n hawdd cymryd rhan a rhoi cynnig ar y gamp
- Bydd angen i chi wisgo siwt wlyb, oherwydd bod y môr o amgylch Prydain yn oer iawn. Dylech allu llogi siwt yn y rhan fwyaf o ganolfannau syrffio
Syrffio Barcud
- Mae syrffio barcud yn golygu syrffio tra’n dal barcud a defnyddio’r gwynt i’ch helpu i reidio’r tonnau
- Mae amryw o arddulliau o syrffio barcud, yn cynnwys: reidio rhydd, cyflymder, boardarcross, cicers a sleiders, hangtime, reidio tonnau a dull rhydd
Achub Bywyd Beistonna (Surf Life Saving)
- Mae Achub Bywyd Beistonna yn weithgaredd unigryw sy’n cyfuno goliau dyngarol a chystadleuaeth elit
- Ei nodau ac amcanion yw:–
- achub bywydau
- datblygu a gwella safonau achub bywyd cenedlaethol a rhyngwladol
- cydweithio â phob sefydliad arall sydd â’r un amcanion
- darparu cyfleusterau i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau achub bywyd
- Mae Cymdeithas Achub Bywyd Beistonna Cymru (SLSA) yn elusen nid er elw gofrestredig gyda 26 o glybiau achub bywyd gwirfoddol cysylltiedig – o Fae Jackson, y Barri, yn y dwyrain, i Aberystwyth yn y gorllewin. Mae’n cwmpasu pob awdurdod lleol o Fro Morgannwg i Geredigion
- Mae achubwyr bywyd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i brofi eu ffitrwydd a’u sgiliau syrffio mewn cystadlaethau lleol a Phencampwriaethau Cymru, Prydain a Rhyngwladol
- Pencampwriaethau Achub Bywyd Beistonna Cymru yw cyfarfod achub bywyd mwyaf Prydain
- Mae’r gystadleuaeth yn dechrau gyda digwyddiadau iau i blant dros 12 oed, y grŵp oedran canolradd yw 16–18, wedyn oedolion hyd at 35 oed, a meistri dros 35 oed
- Mae’r cystadlaethau’n cael eu rhannu’n chwe phrif gategori:–
- nofio
- padlo syrff sgi
- padlo Bwrdd Malibu
- traeth (fflagiau traeth, sbrintio, rhedeg 2k)
- digwyddiadau tïm
- digwyddiadau dŵr llonydd/pwll nofio (yn ystod misoedd y gaeaf)


