Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Dwr » Pysgota a Genweirio

  • Mae genweirio (angling) yn un o’r mathau mwyaf poblogaidd o hamdden yn y byd
  • Mae pobl yn pysgota o’r lan ac o gychod, am bysgod gêm – pysgodyn mawr ei bri a bydd gwobr i’r sawl sy’n ei ddal
  • Mae offer pysgota, o’r enw tacl, yn cynnwys gwialen, rïl, lein bysgota, bachau hudion (lures)
  • Oherwydd bod tacl yn weddol rad, ac mae’n hawdd iawn dod o hyd i rywle i bysgota, gall bron i unrhyw un bysgota. Mae’r gamp yn darparu bwyd ffres, ac mae pysgotwyr hefyd yn mwynhau treulio amser yn yr awyr agored
  • Gallwch bysgota mewn dŵr ffres neu ddŵr hallt
  • Mae pysgota dŵr ffres yn digwydd mewn llynnoedd, pyllau, afonydd a nentydd, ac mae pysgod gêm yn y dyfroedd hyn yn cynnwys brithylliaid, draenog y môr a llawer o rywogaethau eraill
  • Mae pysgota dŵr hallt yn digwydd ar y môr, aberoedd, afonydd llanw ac mae pysgod gêm yn y dyfroedd hyn yn tueddu i fod yn fwy na physgod dŵr ffres arferol, megis tiwna
  • Gyda bron i 750 milltir o arfordir amrywiol, mae gan Gymru rywbeth i’w gynnig i unrhyw bysgotwr môr. Mae llu o ddyfroedd dŵr llonydd, camlesi ac afonydd i blesio pysgotwyr hefyd

Trwydded Bysgota

  • Os ydych yn 12 oed neu’n hŷn ac eisiau pysgota am eog, brithylliaid, pysgod dŵr ffres neu lyswennod dŵr yng Nghymru, Lloegr (ac eithrio’r Afon Tweed) neu’r Border Esk a’i llednentydd yn yr Alban mae’n rhaid cael trwydded wiail gan Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Os ydych yn cael eich dal yn pysgota heb drwydded, fe allech gael dirwy o hyd at £2500

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.