Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Dan Do » Crefft Ymladd
 Gall crefft ymladd fod yn beryglus a dylai ei hymarfer gyda gofal a disgyblaeth, dan gyfarwyddyd hyfforddwyr proffesiynol
Gelwir unrhyw fath o ymladd di–arf yn grefft ymladd
 Mae pobl yn ymarfer crefft ymladd fel chwaraeon cystadleuol ac er mwyn cadw’n heini, i amddiffyn eu hunan, i fyfyrio, i ddatblygu disgyblaeth feddyliol, datblygu cymeriad a hunanhyder
Carate
 Mae Carate yn ddull traddodiadol Japaneaidd o ymladd heb arfau
Mae’n cynnwys technegau dyrnu, bwrw a chicio. Mae’r person y taro a chicio pwyntiau sensitif ar gorff ei wrthwynebydd
Mae’r rhan fwyaf o glybiau carate yn cynnal sesiynau hyfforddi am awr neu ddwy. Os ydych yn ddechreuwr, efallai y bydd sesiwn awr yn ddigon hir
Wrth i chi ddatblygu, gallwch sefyll arholiadau graddio sy’n ddigwyddiadau ffurfiol lle caiff eich sgiliau carate eu barnu. Os ydych yn llwyddo i basio’r radd honno, bydd eich clwb neu’ch sefydliad yn cydnabod eich hawl i wisgo gwregys o liw gwahanol. Mae lliw eich gwregys yn adlewyrchu lefel eich gallu i ymarfer carate. Gwyn yw lliw’r gwregys y lefel mwyaf sylfaenol, a du yw’r lliw uchaf
Jiwdo
 Mae Jiwdo yn gelf hunanamddiffyn Japaneaidd a hefyd yn gamp Olympaidd
Mae’n fath o reslo lle rydych yn troi cryfder eich gwrthwynebydd yn wendid er mwyn ennill
Kung Fu
Mae Kung Fu yn ddull ymladd Tseiniaidd traddodiadol
Mae’n cyfuno cicio, taro, troi’r corff, dulliau osgoi, cyrcydu, neidio, cwympo, a throsbennu
Cic–bocsio
 Mae cic–bocsio yn gorfforol iawn. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu cic–bocsio, awgrymir i chi ymweld â’ch clwb lleol i wylio sesiwn yn gyntaf
fewn y sesiwn ymarfer athletig hon byddwch yn gwneud bocsio cysgod, gwaith gyda bagiau trwm, cryfhau a chyflyru. Mae’n rhoi ffocws ar ochr uchaf y corff trwy ffyrdd gwahanol o ddyrnu, ac ar ochr isaf y corff trwy gicio
Rhaid gwisgo menig bocsio neu lapio’r arddyrnau wrth ymarfer
Fe elwir math poblogaidd o gic–bocsio yn gic–bocsio aerobeg neu gardiofasgwlaidd (‘cardio’), sy’n cyfuno elfennau bocsio, crefft ymladd ac aerobeg
Gwisgwch ddillad cyfforddus fel y gall eich breichiau a’ch coesau symud i bob cyfeiriad, a sicrhewch eich bod yn yfed digonedd o ddŵr cyn, ar ôl ac yn ystod ymarfer
Dechreuwch trwy gicio’n isel ac yna byddwch yn parhau i ddysgu technegau cic–bocsio eraill
Tai Chi
 Mae Tai Chi yn ymarfer traddodiadol Tseiniaidd i ymlacio’r meddwl a’r corff
Mae’n lleihau straen ac yn hyrwyddo lles cyffredinol y corff a’r meddwlÂ
Mae’n cyfuno symudiadau graslon, myfyrio a rheoli anadlu i wella llif egni eich corff. Mae 108 o ymarferiadau cymhleth yn cael eu perfformio mewn ffordd araf, ymlaciedig, rhedegog dros gyfnod o 30 munud
Taekwondo
 Mae Taekwondo yn grefft ymladd Coreaidd sy’n debyg i carate
Mae’n grefft hunanamddiffyn
Mae’n rhoi pwyslais ar gicio uchel a dyrnu
Nod Taekwondo yw cicio a bwrw’ch gwrthwynebydd cymaint o weithiau ag sy’n bosib
Ceir tair rownd o dri munud ac mae’r ymladd yn digwydd ar fat wyth medr sgwâr


